P-06-1407 Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya

P-06-1407 Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mark Baker, ar ôl casglu 469,571 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:        

Bydd y gyfraith newydd ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya yn dod i rym ar 17 Medi, a chyda hynny y gwelir diwedd ar gyfnod sosialaeth mewn grym yng Nghymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod ganddi dystiolaeth sy’n ategu’r ddadl bod gostwng y terfyn cyflymder i 20mya YM MHOB MAN yn achub bywydau! Ac eto, rydym yn gweld taflenni sydd ond yn honni y bydd hyn yn digwydd, ynghyd â sylwadau gan feddygon sy’n gweld pobl sy’n dod i adrannau damweiniau ac achosion brys o ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. NID yw hyn yn dystiolaeth. Daw’r unig wir dystiolaeth o Belfast, ac mae'r dystiolaeth honno’n datgan NAD OES DIM GWAHANIAETH o ran gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd!.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Yn wir, gwnaeth un o'r pentrefi yn Sir Fynwy lle cafodd y drefn newydd ei threialu roi’r gorau iddi gan ei bod yn troi’r ffyrdd yn draed moch llwyr! Mae Mark Drakeford wedi honni bod y drefn newydd wedi bod yn llwyddiant yn Saint-y-brid, ond bob tro dwi'n mynd yno, nid oes NEB yn gyrru ar gyflymder o 20mya.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu UNRHYW dystiolaeth argyhoeddiadol i gefnogi'r honiadau ynghylch diogelwch. Adran newid hinsawdd Llywodraeth Cymru sy'n hyrwyddo'r gyfraith newydd hon, NID iechyd a diogelwch.

NID YDYCH WEDI GWRANDO ARNOM.

Rhoddwyd Llywodraeth Cymru yn ei lle GAN BOBL CYMRU; ni yw eich pennaeth! Rydym yn mynnu bod y syniad hurt hwn yn cael ei atal.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 24/06/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.  

 

Nododd y Pwyllgor gryfder y teimladau ar y mater hwn fel yr amlygwyd gan y niferoedd o blaid y ddeiseb hon. Nododd yr Aelodau i’r mater gael ei drafod yn y Senedd ar 22 Mai, a nodwyd anfodlonrwydd y deisebydd ar newid ymagwedd ac ymarfer gwrando Llywodraeth Cymru.

 

Yng ngoleuni'r newid ymagwedd a safiad Llywodraeth Cymru, mae'n amlwg y dylai pryderon ynghylch ffyrdd unigol gael eu mynegi i'r awdurdod lleol perthnasol. Gan hynny, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 22/04/2024. 

 

A road with trees on the side

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/04/2024