P-06-1399 Health Education & Improvement Wales to make PMDD a mandatory CPD module in postgrad medical teaching

P-06-1399 Health Education & Improvement Wales to make PMDD a mandatory CPD module in postgrad medical teaching

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Becci Smart, ar ôl casglu 717 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:        

Mae Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif yn anhwylder yr hwyliau sy'n seiliedig ar hormonau sy'n effeithio ar 5.5% o fenwyod sy’n cael mislif, ac mae’n achosi symptomau meddyliol, emosiynol a chorfforol difrifol yn ystod y pythefnos cyn pob mislif, ac mae’r symptomau'n ddinistriol i bob agwedd ar fywyd dioddefwr. Nid oes iachâd ar gael, dim ond dulliau i reoli’r symptomau. Mae'r diffyg ymwybyddiaeth a’r addysg wael yn y maes meddygol yn golygu bod dioddefwyr yn aml yn cael gofal sy’n is na’r safon a ddisgwylir, ac maent yn aros 12 mlynedd ar gyfartaledd cyn cael diagnosis, a thrwy hynny, yn aros am driniaeth briodol a diogel.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Er mwyn galluogi diagnosis amserol a rheolaeth ddiogel i'r rhai sydd ag Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif, mae'n ofynnol i weithwyr meddygol proffesiynol fod â gwybodaeth ynghylch sut i adnabod patrwm cylchol y symptomau, sy’n rhwystr cyfredol ar draws y system gofal iechyd. Nid oes unrhyw addysgu gorfodol ar Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif, ond gall y rhai sy'n dymuno arbenigo mewn anhwylderau mislif ddewis dilyn modiwl datblygiad proffesiynol parhaus. Mae Coleg Brenhinol y Seicolegwyr (RCPsych) yn cynnig un modiwl cyfunol ar hormonau ac iechyd meddwl, ac mae Coleg Brenhinol y Gynaecolegwyr (RCOG) a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu (RCGP) yn cynnig addysg gyfyngedig ar syndrom cyn mislif yn unig.


Byddai sicrhau bod myfyrwyr ôl-radd â gwybodaeth am Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) yn:

  • Galluogi iddynt adnabod arwyddion rhybudd cynnar o'r cysylltiad rhwng iechyd meddwl a chylch y mislif.
  • Caniatáu i fyfyrwyr ddarparu cymorth ac annog menywod/unigolion sydd wedi’u geni yn fenywaidd (AFAB) i olrhain eu cylchoedd wrth ddod ger eu bron ag argyfwng iechyd meddwl, gan nodi unrhyw batrwm cylchol o ran symptomau.
  • Sicrhau diagnosis mwy amserol.
  • Sicrhau bod gan bob myfyriwr a darparwr gofal iechyd wybodaeth gyfredol am y canllawiau triniaeth ar gyfer Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif.

 

https://iapmd.org/about-pmdd

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/04/2024