P-06-1397 Cyflwyno opsiwn prawf ceg y groth yn y cartref yng Nghymru
P-06-1397 Cyflwyno opsiwn prawf ceg y groth yn y cartref yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Molly Fenton and Jessica Moultrie, ar ôl casglu 1,543 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Canser
ceg y groth yw'r math mwyaf cyffredin o ganser mewn menywod o dan 35 mlwydd
oed. Yn ôl Cancer Research UK, mae modd atal 99.8% o achosion yn y DU. Gall
profion ceg y groth achub bywydau drwy ganfod unrhyw newidiadau cyn-ganseraidd
yn gynnar pan fydd triniaethau’n fwy effeithiol.
Ar
hyn o bryd mae rhwystrau sy'n atal menywod a'r rhai a bennwyd yn fenywod adeg
eu geni rhag cael mynediad at y gwasanaeth hwn. Yn Lloegr cynhaliwyd rhai
treialon profion ceg y groth yn y cartref, a chredwn y gall yr opsiwn hwnnw yng
Nghymru helpu i chwalu’r rhwystrau hyn ac achub bywydau.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
rhesymau pam nad yw menywod yn mynd i gael eu profion sgrinio ceg y groth. Gall
y rhesymau gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i,:-
Embaras
Diffyg addysg
Nid yn uniaethu fel menyw
Canfyddiadau isel o risg
Diffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau iechyd
Rhwystrau diwylliannol
Pryder am y prawf
Problemau o ran delwedd y corff
Trawma - ymosodiad rhywiol, treisio
Amseroedd anghyfleus o ran apwyntiadau
Cafodd
ei dreialu yn Llundain yn 2021. Dywedodd Dr Anita Lim, o King's College
Llundain, sy'n arwain y treial YouScreen:
"Mae'n hanfodol ein bod yn dod o hyd i ffyrdd fel hyn o wneud sgrinio'n
haws, ac amddiffyn menywod rhag canser y gellir, i raddau helaeth, ei atal. Mae
hunan-samplu yn rhywbeth cyffrous iawn. Mae'r swab syml a chyfleus hwn yn
golygu y gellir ei wneud ym mhreifatrwydd a chysur eich cartref eich hun."
Dywedodd
Molly Fenton, un sy’n gweithredu dros hawliau menywod yng Nghymru: "Yn
ddelfrydol, mae angen i lawer o bethau newid: gwell addysg, sgyrsiau sy'n dileu
stigma, a sicrwydd ynghylch y prawf, ond yn y tymor byr gallai hyn achub llawer
o fywydau ifanc. Gall achub, yn enwedig, fywydau ifanc 25 mlwydd oed sy'n cael
y prawf am y tro cyntaf."
Etholaeth a Rhanbarth
y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn ystyried
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/04/2024