NDM8518 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyllideb llywodraeth y DU
NDM8518 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyllideb llywodraeth y DU
NDM8518 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu Cyllideb
2024 Llywodraeth y DU, cynllun ar gyfer twf tymor hir, a fydd yn cynnwys:
a) toriad dwy geiniog i
gyfraniadau yswiriant gwladol, gan arbed £450 y flwyddyn ar gyfartaledd i
weithwyr Cymru;
b) £168 miliwn o gyllid
canlyniadol Barnett ychwanegol i Gymru;
c) prynu safle'r Wylfa
am £160 miliwn;
d) £20 miliwn o gyllid
ar gyfer y Rhyl fel rhan o'r Cynllun Tymor Hir ar gyfer Trefi;
e) £10 miliwn o gyllid i
Venue Cymru yn Llandudno;
f) £5 miliwn o gyllid ar
gyfer cyfleusterau diwylliannol yng Nghasnewydd;
g) £5 miliwn o gyllid i
lansio safle lansio bwyd-amaeth mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a
Chyngor Ceredigion;
h) £1.6 miliwn o gyllid
tuag at ailddatblygu Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod:
a) y Canghellor wedi
cyhoeddi Cyllideb 2024 Llywodraeth y DU;
b) twf cyflog real a
Chynnyrch Domestig Gros (CDG) y pen wedi cynyddu ar ei gyfradd isaf ers yr Ail
Ryfel Byd o dan Lywodraeth hon y DU; ac
c) treth fel cyfran o
CDG wedi cynyddu i'w lefel uchaf ers 1948 o dan Lywodraeth hon y
DU.
2. Yn gresynu:
a) mai'r tymor Senedd
San Steffan hwn fydd y cyntaf yn hanes modern i oruchwylio cwymp mewn incwm
gwario aelwydydd a safonau byw;
b) at y methiant i
wella’r trothwy lwfans personol yn unol â chwyddiant, a fydd yn gadael
aelwydydd incwm isel yn waeth eu byd ac yn ymwreiddio anghydraddoldebau incwm;
c) y bydd gwariant o
ddydd i ddydd ar gyfer adrannau anwarchodedig Llywodraeth y DU yn gostwng 13 y
cant dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru
mewn meysydd fel cyfiawnder;
d) y bydd Canary Wharf
yn derbyn £240 miliwn mewn Cronfeydd Ffyniant Bro, tra bod Llywodraeth Cymru am
dderbyn dim ond £170 miliwn; ac
e) nad yw Plaid
Geidwadol y DU na Phlaid Lafur y DU wedi ymrwymo i fargen ariannu deg i Gymru,
nac i roi ei chyfran o gyllid canlyniadol HS2 i Gymru.
3. Yn credu bod:
a) potensial Cymru yn
cael ei rwystro gan ddiffyg buddsoddiad priodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus
a'n seilwaith adfeiliedig; a
b) gyllideb Llywodraeth
y DU 2024 yn methu'n llwyr â mynd i'r afael â blaenoriaethau ac anghenion pobl
Cymru.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu o ran
Cyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU 2024:
a) nid yw’n darparu
unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, heblaw am yr hyn sydd
eisoes yn ei chynlluniau gwario;
b) mae’n golygu bod
setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 hyd at £700 miliwn yn is mewn termau
real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad Gwariant 2021;
c) nid yw’n darparu
unrhyw gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy’n golygu bod ei
chyllideb gyfalaf gyffredinol yn 2024-25 hyd at 8 y cant yn llai mewn
termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad Gwariant 2021;
d) mae’n anwybyddu
gofynion craidd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU fuddsoddi i ddiogelu
tomenni glo ac i ailgategoreiddio HS2, gan gynnwys darparu’r £270 miliwn na
fydd Cymru wedi’i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod gwario presennol; ac
e) nid yw’n darparu
cymorth wedi’i dargedu i’r bobl hynny sydd ar yr incwm isaf.
2. Yn gresynu hefyd:
a) bod y cynnydd mewn
treth bersonol a gyflwynwyd gan Lywodraeth hon y DU yn dilyn ei phenderfyniad
blaenorol i rewi trothwyon yn uwch na’r gostyngiadau i dreth a gyhoeddwyd yng
Nghyllideb y Gwanwyn 2024 a Datganiad yr Hydref 2023 gyda’i gilydd, a dwywaith
yn uwch erbyn 2028-29;
b) nad yw cyfansymiau
gwario cyffredinol Llywodraeth y DU yn golygu twf gwirioneddol mewn gwariant
cyhoeddus y person dros y pum mlynedd nesaf, heb unrhyw gynllun credadwy i
gyflawni lefel y gwariant cyhoeddus y maent wedi’i hamlinellu;
c) bod disgwyl i safonau
byw yn y DU adlewyrchu’r ffaith bod gwerth chwe blynedd o dwf wedi’i golli, gan
ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig erbyn 2025 ar y cynharaf, fel y’i
mesurwyd gan incwm gwario gros aelwyd y pen; a
d)
bod polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn golygu bod gan Gymru lai o lais
dros arian a’u bod hefyd yn tanseilio ac yn anwybyddu datganoli a’r Senedd yma.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2024