NDM8496 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy
NDM8496 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy
NDM8496 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu y bydd
cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru yn arwain at
amcangyfrif o:
a) 122,200 o ostyngiad
yn nifer y da byw yng Nghymru;
b) 5,500 o swyddi yn
cael eu colli ar ffermydd Cymru; ac
c) colled o £199 miliwn
i'r economi wledig.
2. Yn cydnabod cryfder y
teimladau yn y gymuned amaethyddol yn erbyn y cynllun ffermio cynaliadwy.
3. Yn nodi'r arolwg a
gomisiynwyd gan y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru sydd
wedi canfod mai dim ond 3 y cant o ffermwyr yng Nghymru sy'n ymddiried yn
Llywodraeth Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) dileu'r gofyniad i
bob fferm gael 10 y cant o orchudd coed; a
b) dileu cynigion
presennol y cynllun ffermio cynaliadwy ac ail-ymgysylltu â'r sector ffermio i
ddatblygu cynllun newydd y mae'r gymuned ffermio yn ei gefnogi.
Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad
allweddol ffermio ac amaethyddiaeth at dirlun cymdeithasol, economaidd a
diwylliannol Cymru.
2. Yn croesawu
penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal lefelau cynllun y taliad sylfaenol yn
2024 er mwyn hwyluso’r broses o drosglwyddo i’r cynllun ffermio cynaliadwy.
3. Yn croesawu’r
ymgysylltu gyda ffermwyr a rhanddeiliaid sydd wedi arwain at newidiadau
cadarnhaol i’r gwaith o lunio’r cynllun ffermio cynaliadwy ers cyhoeddi’r
cynllun amlinellol yn 2022.
4. Yn cefnogi diwygiadau
pellach i’r cynllun ffermio cynaliadwy mewn ymateb i adborth oddi wrth ffermwyr
yn ystod yr ymgynghoriad diweddar.
5. Yn nodi mai’r
bygythiad mwyaf i sector ffermio cynaliadwy a diogelwch bwyd yng Nghymru yw
effaith y newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
6. Yn cymeradwyo bwriad
y cynllun ffermio cynaliadwy i wobrwyo ffermwyr Cymru sy’n cymryd camau i
ymateb i’r her honno.
7.
Yn gresynu at bolisi Llywodraeth y DU o waredu sicrwydd o ran cyllid i ffermydd
a lleihau cyllidebau, gan wneud y broses bontio yn fwy heriol ymhob un o
wledydd y DU, gan greu ansicrwydd i ffermwyr.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2024