Y Gwasanaethau Tân ac Achub

Y Gwasanaethau Tân ac Achub

Cefndir

 

Ym mis Ionawr 2024, cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i gynnal ymchwiliad i lywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru. Ysgogwyd yr ymchwiliad gan bryderon y cyhoedd ynghylch canfyddiadau'r Adolygiad o Ddiwylliant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan Fenella Morris CB a ganfu fethiannau difrifol mewn polisïau, gweithdrefnau, a systemau’r gwasanaeth tân ac achub.

 

Cylch gorchwyl

 

Y cylch gorchwyl llawn ar gyfer yr ymchwiliad yw archwilio:

 

  • I ba raddau y cyfrannodd trefniadau llywodraethu at y methiannau a nodwyd yn adolygiad diwylliant o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

 

  • Capasiti a gallu’r Awdurdodau Tân ac Achub i newid y trefniadau rheoli a’r arferion gweithio sydd wedi cael eu nodi’n feysydd sy’n peri pryder, a pharodrwydd yr awdurdodau i sicrhau newid diwylliannol.

 

  • Methiant ymdrechion blaenorol i ddiwygio, gan gynnwys edrych ar yr hyn a ataliodd adolygiadau blaenorol rhag cael eu gweithredu, yn benodol y Comisiwn Llywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, a alwodd am i’r Awdurdodau Tân ac Achub gael eu hailgyfansoddi.

 

  • Sut mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn 2018 ynghylch diwygio’r Gwasanaethau Tân ac Achub wedi llywio trefniadau llywodraethu ac arferion gweithio presennol. I ba raddau yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r pryderon a nodwyd yn ei hymgynghoriad a’i hadroddiad cynnydd yn 2019.

 

  • Y newidiadau sydd eu hangen i gryfhau’r trefniadau presennol ar gyfer arolygu ac archwilio, gan gynnwys rôl cyrff allanol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

  • Effeithiolrwydd y mecanweithiau ar gyfer sicrhau bod tystiolaeth a gesglir gan Brif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru mewn arolygiadau ac adolygiadau o Awdurdodau Tân ac Achub yn cael ei defnyddio a’i bod yn cael ei gweithredu, a'r trefniadau ar gyfer dysgu ar y cyd sy’n deillio o arolygiadau o’r Awdurdodau a gynhelir yng ngwledydd eraill y DU, yn benodol yn Lloegr, i lywio polisi.

 

Casglu tystiolaeth

 

Tystiolaeth ysgrifenedig

Roedd yr ymchwiliad yn ymchwiliad â ffocws, a gynhaliwyd ar fyrder. Casglwyd tystiolaeth yn ystod gwanwyn 2024 ar ffurf ymgynghoriad wedi’i dargedu a gwrandawiad tystiolaeth lafar. Cafwyd yr ymatebion ysgrifenedig a ganlyn:

 

FAR01 - Cymdeithas y Swyddogion Tân

FAR02 - Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru

FAR03 - Y Bwrdd Safonau Tân

FAR04 - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

FAR05 - Archwilio Cymru

FAR06 - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

FAR07 - Cymdeithas y Gwasanaethau Tân ac Achub

FAR08 - Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân

FAR09 - Merched yn y Gwasanaeth Tân

FAR10 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Tystiolaeth lafar

Clywodd y Pwyllgor gan y tystion a ganlyn:

 

26 Chwefror

Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Dan Stephens, Prif Gynghorydd Tân ac Achub ac Arolygydd Cymru

Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Risg, Cadernid a Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru

4 Mawrth

Matt Wrack, Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb y Brigadau Tân

Cerith Griffiths, aelod o’r Cyngor Gweithredol ar gyfer Cymru, Undeb y Brigadau Tân

Peter Crews, Ysgrifennydd Cangen (yn cwmpasu Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru), UNSAIN

Tristan Ashby, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas y Gwasanaethau Tân ac Achub

Mark Hardingham, Cadeirydd, Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân

Roedd sesiwn friffio breifat hefyd gyda Chomisiynwyr Tân De Cymru:

Vij Randeniya (cyn Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Canolbarth Lloegr);

Y Farwnes Wilcox o Gasnewydd (cyn Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd);

Kirsty Williams (cyn Aelod o’r Senedd a Gweinidog Addysg)

11 Mawrth

Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Gary Emery, Cyfarwyddwr Archwilio, Archwilio Cymru

Martin Peters, Pennaeth y Gyfraith a Moeseg, Archwilio Cymru

Y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Y Cynghorydd Gwynfor Thomas, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Roger Thomas, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

Y Cynghorydd Steven Bradwick, cyn-Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

Dewi Rose, Dirprwy Brif Swyddog Tân Dros Dro, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

18 Mawrth

Jason Killens, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Angela Lewis, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

22 Ebrill 2024

Julie James AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Risg, Cadernid a Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru

Dan Stephens, Prif Gynghorydd Tân ac Achub ac Arolygydd Cymru

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/02/2024