Y Gwasanaethau Tân ac Achub
Y Gwasanaethau Tân ac Achub
Cefndir
Ym mis Ionawr
2024, cytunodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i gynnal ymchwiliad i
lywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru. Ysgogwyd yr ymchwiliad
gan bryderon y cyhoedd ynghylch canfyddiadau'r Adolygiad
o Ddiwylliant Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gan Fenella Morris CB a
ganfu fethiannau difrifol mewn polisïau, gweithdrefnau, a systemau’r gwasanaeth
tân ac achub.
Cylch gorchwyl
Y cylch gorchwyl
llawn ar gyfer yr ymchwiliad yw archwilio:
- I ba raddau y cyfrannodd trefniadau
llywodraethu at y methiannau a nodwyd yn adolygiad diwylliant o Wasanaeth
Tân ac Achub De Cymru.
- Capasiti a gallu’r Awdurdodau Tân ac Achub i
newid y trefniadau rheoli a’r arferion gweithio sydd wedi cael eu nodi’n
feysydd sy’n peri pryder, a pharodrwydd yr awdurdodau i sicrhau newid
diwylliannol.
- Methiant ymdrechion blaenorol i ddiwygio, gan
gynnwys edrych ar yr hyn a ataliodd adolygiadau blaenorol rhag cael eu
gweithredu, yn benodol y Comisiwn Llywodraethu a Darparu Gwasanaethau
Cyhoeddus, a alwodd am i’r Awdurdodau Tân ac Achub gael eu hailgyfansoddi.
- Sut mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn
2018 ynghylch diwygio’r Gwasanaethau Tân ac Achub wedi llywio trefniadau
llywodraethu ac arferion gweithio presennol. I ba raddau yr ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r pryderon a nodwyd yn ei hymgynghoriad a’i hadroddiad
cynnydd yn 2019.
- Y newidiadau sydd eu hangen i gryfhau’r
trefniadau presennol ar gyfer arolygu ac archwilio, gan gynnwys rôl cyrff
allanol ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
- Effeithiolrwydd y mecanweithiau ar gyfer
sicrhau bod tystiolaeth a gesglir gan Brif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac
Achub Cymru mewn arolygiadau ac adolygiadau o Awdurdodau Tân ac Achub yn
cael ei defnyddio a’i bod yn cael ei gweithredu, a'r trefniadau ar gyfer
dysgu ar y cyd sy’n deillio o arolygiadau o’r Awdurdodau a gynhelir yng
ngwledydd eraill y DU, yn benodol yn Lloegr, i lywio polisi.
Casglu
tystiolaeth
Tystiolaeth
ysgrifenedig
Roedd yr
ymchwiliad yn ymchwiliad â ffocws, a gynhaliwyd ar fyrder. Casglwyd tystiolaeth
yn ystod gwanwyn 2024 ar ffurf ymgynghoriad wedi’i dargedu a gwrandawiad
tystiolaeth lafar. Cafwyd yr ymatebion ysgrifenedig a ganlyn:
FAR01
- Cymdeithas y Swyddogion Tân (Saesneg yn unig)
FAR02
- Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (Saesneg yn unig)
FAR03
- Y Bwrdd Safonau Tân (Saesneg yn unig)
FAR04
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (Saesneg yn unig)
FAR06
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
FAR07
- Cymdeithas y Gwasanaethau Tân ac Achub (Saesneg yn unig)
FAR08
- Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (Saesneg yn unig)
FAR09
- Merched yn y Gwasanaeth Tân (Saesneg yn unig)
FAR10
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Tystiolaeth
lafar
Clywodd y
Pwyllgor gan y tystion a ganlyn:
Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog
Partneriaeth Gymdeithasol Dan Stephens, Prif Gynghorydd Tân ac Achub ac
Arolygydd Cymru Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Risg, Cadernid a
Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru |
|
Matt Wrack, Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb y
Brigadau Tân Cerith Griffiths, aelod o’r Cyngor Gweithredol
ar gyfer Cymru, Undeb y Brigadau Tân Peter Crews, Ysgrifennydd Cangen (yn cwmpasu
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru), UNSAIN Tristan Ashby, Prif Swyddog Gweithredol
Cymdeithas y Gwasanaethau Tân ac Achub Mark Hardingham, Cadeirydd, Cyngor Cenedlaethol
y Penaethiaid Tân Roedd sesiwn friffio breifat hefyd gyda
Chomisiynwyr Tân De Cymru: Vij Randeniya (cyn Brif Swyddog Tân Gwasanaeth
Tân ac Achub Gorllewin Canolbarth Lloegr); Y Farwnes Wilcox o Gasnewydd (cyn Arweinydd
Cyngor Dinas Casnewydd); Kirsty Williams (cyn Aelod o’r Senedd a
Gweinidog Addysg) |
|
Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru Gary Emery, Cyfarwyddwr Archwilio, Archwilio
Cymru Martin Peters, Pennaeth y Gyfraith a Moeseg,
Archwilio Cymru Y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd Awdurdod Tân
ac Achub Gogledd Cymru Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac
Achub Gogledd Cymru Y Cynghorydd Gwynfor Thomas, Cadeirydd Awdurdod
Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Roger Thomas, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac
Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Y Cynghorydd Steven Bradwick, cyn-Gadeirydd
Awdurdod Tân ac Achub De Cymru Dewi Rose, Dirprwy Brif Swyddog Tân Dros Dro,
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru |
|
Jason
Killens, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Angela
Lewis, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru |
|
Julie James AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros
Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Risg, Cadernid a
Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru Dan Stephens, Prif Gynghorydd Tân ac Achub ac
Arolygydd Cymru |
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/02/2024
Papurau cefndir
- FAR01 - Cymdeithas y Swyddogion Tân (Saesneg yn unig) PDF 150 KB
- FAR02 - Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (Saesneg yn unig) PDF 332 KB
- FAR03 - Y Bwrdd Safonau Tân (Saesneg yn unig) PDF 380 KB
- FAR04 - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 279 KB
- FAR05 - Archwilio Cymru PDF 114 KB
- FAR06 - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru PDF 137 KB
- FAR07 - Cymdeithas y Gwasanaethau Tân ac Achub (Saesneg yn unig) PDF 224 KB
- FAR08 - Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (Saesneg yn unig) PDF 174 KB
- FAR09 - Merched yn y Gwasanaeth Tân (Saesneg yn unig) PDF 178 KB
- FAR10 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru PDF 198 KB