Y cyflenwad o dai cymdeithasol
Y cyflenwad o dai cymdeithasol
Inquiry2
Ymchwiliad
dilynol 2026
Mae'r Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai yn cynnal ymchwiliad dilynol i'w adroddiad ar y
cyflenwad o dai cymdeithasol.
Diben y gwaith dilynol
fydd ystyried y cynnydd a wnaed ers ymchwiliad cychwynnol y Pwyllgor a
gwblhawyd ym mis Ionawr 2025.
Mae'r Pwyllgor yn
awyddus i weld y cynnydd a wnaed tuag at weithredu ei argymhellion gyda ffocws
penodol ar:
>>>>
>>>Gwaith
ar y gweill i gyrraedd y targed cyfredol o 20,000 ac i sicrhau cyflenwad ar ôl
2026
>>>Cynnydd
tuag at weithredu argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy
>>>I ba
raddau y mae gwaith i gynyddu’r cyflenwad yn cael ei danseilio gan nodau polisi
eraill
>>>Sut
mae Llywodraeth Cymru’n datblygu ei rôl strategol o ran tir
>>>Argaeledd
cyllid
>>>Materion
yn ymwneud â chynllunio, a
>>>Chynnydd
o ran datblygu’r gweithlu.
<<<
Mae’r Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y
cyflenwad o dai cymdeithasol ar 20 Tachwedd 2024. (PDF 2.2 MB)
Mae'r Llywodraeth
Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad ar 8
Ionawr 2025 (PDF 258KB)
Cynhaliodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
ymchwiliad i’r cyflenwad tai cymdeithasol.
Y cylch gorchwyl
ar gyfer yr ymchwiliad yw ystyried:
>>>>
>>>Y cynnydd
sy’n cael ei wneud o ran cyflawni’r targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol
carbon isel i'w rhentu; ac i ba raddau y mae’r lefelau presennol ac arfaethedig
o dai cymdeithasol sy’n cael eu hadeiladu yn debygol o ddiwallu'r angen am dai
>>>Yr
heriau y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu hwynebu wrth geisio cynyddu’r
cyflenwad
>>>Sut
mae safonau tai a ddatgarboneiddio yn effeithio ar y gwaith o ddarparu tai
cymdeithasol
>>>Y
cyfleoedd a'r risgiau sydd ynghlwm wrth gynyddu benthyca gan y Llywodraeth a
buddsoddiad sefydliadol
>>>I ba raddau y mae'r system gynllunio yn cefnogi’r broses o
adeiladu tai cymdeithasol y effeithiol
>>>Sut y
gellir gwella’r dull strategol o reoli tir cyhoeddus a phreifat at ddibenion
adeiladu tai cymdeithasol, gan gynnwys prynu gorfodol
>>>Y
potensial ar gyfer cynyddu incwm o fecanweithiau sy’n ymwneud â chipio gwerth
tir er mwyn buddsoddi mewn tai cymdeithasol
>>>Capasiti
sector adeiladu Cymru i adeiladu cartrefi cymdeithasol carbon isel newydd; y
potensial ar gyfer caffael cartrefi presennol ac ailfodelu adeiladau presennol
>>>Sut y
gall cymunedau lleol ymgysylltu’n effeithiol â datblygiadau tai cymdeithasol yn
eu hardaloedd.
<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2024
Papurau cefndir
Ymgynghoriadau
- Y cyflenwad o dai cymdeithasol (Wedi ei gyflawni)