Dyfodol Dur yng Nghymru
Dyfodol Dur yng Nghymru
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig wedi'i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i
ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn
cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol,
amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.
Cytunodd y
Pwyllgor i gynnal sesiynau tystiolaeth gyda Tata Steel, Llywodraeth Cymru a
chynrychiolwyr undebau llafur i drafod y diwydiant dur yn Ne Cymru.
Mae Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi cynnal sesiwn untro o’r blaen ar
ddatgarboneiddio’r
diwydiant dur yn ne Cymru gyda Tata Steel ar 26 Ebrill 2023.
Yn dilyn sesiwn
dystiolaeth y Pwyllgor gyda Tata Steel UK ar 7
Chwefror 2024, gwnaeth Cadeirydd y Pwyllgor ddatganiad.
Cyhoeddodd y
Cadeirydd ddatganiad
pellach ar 25 Ebrill ar ôl i drafodaethau rhwng Tata Steel UK a’r undebau ddod
i ben
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/01/2024