Adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Biliau Cydgrynhoi
Adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Biliau Cydgrynhoi
Ym mis Medi 2023,
ysgrifennodd
y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Pwyllgor Busnes i
dynnu ei sylw at nifer fach o faterion gweithdrefnol yr oedd wedi'u nodi wrth
drafod Bil Cydgrynhoi cyntaf y Senedd.
Yn dilyn hynny,
cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal adolygiad cyfyngedig o'r Rheolau Sefydlog
penodol yr oedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi
gwneud sylwadau arnynt, a arweiniodd at adroddiad a oedd yn argymell diwygio’r
Rheolau Sefydlog hynny.
Gosodwyd yr adroddiad hwn
ar 24 Ionawr ac fe’i gytunwyd gan y Senedd ar 31
Ionawr 2024.
Bydd y Pwyllgor
Busnes yn cynnal adolygiad llawn o Reol Sefydlog 26C yn ddiweddarach yn ystod
tymor y Senedd hon.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/01/2024