NDM8469 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad ardrethi busnes
NDM8469 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Rhyddhad ardrethi busnes
NDM8469 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu bod
Llywodraeth Cymru yn torri’r gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant i 40
y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden yn y gyllideb ddrafft
ar gyfer 2024-2025.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i adfer y gyfradd rhyddhad ardrethi busnes o 75 y cant ar
gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden er mwyn cefnogi busnesau a
diogelu swyddi.
Cefnogwyr
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu’r
ffaith bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, a hynny er
gwaethaf y ffaith ei bod werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real nag ydoedd
adeg ei gosod yn 2021:
a) yn darparu pecyn o
gymorth ar gyfer ardrethi annomestig sydd werth £384 miliwn;
b) yn rhoi cap o 5 y
cant ar y cynnydd yn sgil chwyddiant i'r lluosydd ardrethi annomestig; ac
c) yn darparu rhyddhad
o ran ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y
pumed flwyddyn yn olynol, gan adeiladu ar y cymorth sydd werth bron i £1 biliwn
a ddarparwyd ers 2020-21.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Luke Fletcher
(Gorllewin De Cymru)
Ychwanegwch pwynt
newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu ymhellach
at setliad cyllid presennol Trysorlys y DU nad yw'n ystyried anghenion
Cymru.
Gwelliant 3 Luke Fletcher
(Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i symud oddi wrth ardrethi annomestig, cyhoeddi
amserlen ar gyfer eu gwaith, a sicrhau bod map ffordd ar gyfer pontio
allan o ardrethi annomestig yn cael ei ddarparu yn ogystal ag opsiynau ar gyfer
system newydd.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/02/2024