NDM8459 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol
NDM8459 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu llywodraeth leol
NDM8459 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y rôl
hanfodol y mae cynghorau'n ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
ledled Cymru a'r heriau cyllido y maent yn eu hwynebu.
2. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru yn derbyn y lefelau uchaf erioed o gyllid gan Lywodraeth y
DU.
3. Yn nodi bod gan
gynghorau dros £2.75 biliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio.
4. Yn gresynu bod
cynghorau'n ymgynghori ar godiadau o hyd at 25 y cant i’r dreth gyngor ar gyfer
blwyddyn ariannol 2024-2025.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) comisiynu adolygiad
annibynnol o fformiwla cyllido llywodraeth leol Cymru;
b) gweithio gydag
awdurdodau lleol i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio i
gadw'r dreth gyngor mor isel â phosibl; ac
c) ei gwneud yn
ofynnol i unrhyw awdurdod lleol sy'n cynnig codiad o dros 5 y cant i’r dreth
gyngor gynnal refferendwm lleol a chael pleidlais o blaid cyn gweithredu'r
cynnydd arfaethedig.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 1 a 2 a
rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod y rôl
hanfodol sydd gan awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ledled
Cymru, y cynnydd sylweddol yn y setliad llywodraeth leol dros y ddwy flynedd
ddiwethaf, diogelu'r cynnydd o 3.1 y cant ar gyfer 2024-25, a'r heriau cyllido
y mae awdurdodau yn eu hwynebu serch hynny.
Yn cydnabod bod
cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 bellach yn werth hyd at £1.3 biliwn
yn llai mewn termau real na phan gafodd ei phennu yn 2021.
Gwelliant 2 Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at:
a) y tanariannu cronig
i Gymru gan lywodraethau olynol y DU, sy'n effeithio ar gyllidebau awdurdodau
lleol; a
b) amcangyfrifon o
fwlch cyllido o £750 miliwn erbyn 2027 a fydd yn ymwreiddio ymhellach
amddifadedd ac anghydraddoldeb.
Yn credu bod cyllid
llywodraeth leol yng Nghymru ar daflwybr anghynaladwy heb fodel ariannu teg o
San Steffan.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) gofyn yn ffurfiol i
Lywodraeth y DU adolygu model cyllido Barnett ar sail anghenion cymdeithasol
Cymru i gefnogi pob maes cyllidebol, gan gynnwys cyllid awdurdodau lleol;
b) cyflwyno cynlluniau
manwl ar frys a fydd yn rhoi sylfaen gynaliadwy i awdurdodau lleol a'r holl
wasanaethau cyhoeddus; ac
c) darparu canllawiau
ar sut mae isafswm presennol y Grant Cynnal Refeniw yn ymwneud â setliad
llywodraeth leol ar gyfer 2024-25, a datblygu strategaeth i sicrhau y caiff y
Grant Cynnal Refeniw ei gymhwyso'n gyson drwy flynyddoedd ariannol dilynol.
Yn galw ar Lywodraeth
y DU ar y pryd i weithredu fformiwla ariannu teg bob amser sy'n galluogi
Llywodraeth Cymru i ariannu awdurdodau lleol yn ddigonol.
Os derbynnir gwelliant
2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le:
Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru yn:
a) parhau i ddatblygu
a chynnal fformiwla ariannu llywodraeth leol Cymru mewn partneriaeth â
llywodraeth leol; a
b)
parhau i gydnabod pwysigrwydd gwneud penderfyniadau democrataidd lleol ynghylch
cyllidebau cynghorau a gwasanaethau cyhoeddus.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/02/2024