NDM8448 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ariannu hosbisau elusennol
NDM8448 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ariannu hosbisau elusennol
NDM8448 Mabon ap
Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod darparwyr gofal
hosbis elusennol yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddarparu gofal a chymorth
hanfodol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan salwch angheuol ledled Cymru;
b) bod y sector hosbis
elusennol yn darparu gofal i fwy na 20,000 o bobl bob blwyddyn, gyda'u
gwasanaethau yn cefnogi pobl sy'n marw i aros yn eu cartrefi eu hunain a
lleihau derbyniadau i'r ysbyty, gan sicrhau canlyniadau gwell i unigolion a'r
GIG;
c) bod costau cynyddol
o ran ynni a staff, pwysau ar y gweithlu, a galw cynyddol am ofal cymhleth yn
fygythiad dirfodol i gynaliadwyedd y sector;
d) bod 90 y cant o
hosbisau yn cyllidebu ar gyfer diffyg yn 2023/24 ac yn defnyddio cronfeydd wrth
gefn i gwrdd â'r diffyg; ac
e) y bydd y galw a'r
angen am ofal lliniarol yn tyfu'n sylweddol wrth i'r boblogaeth heneiddio ac
mae mwy o bobl yn byw yn hirach gyda chyflyrau cronig lluosog.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) ymrwymo i weithio
gyda'r sector i fynd i'r afael â'r heriau cyllido uniongyrchol, gan gynnwys
sicrhau cynnig cyflog teg i weithlu hosbisau, sy'n cyfateb i'r cynnydd yn yr
Agenda ar gyfer Newid, fel bod cydraddoldeb â chydweithwyr yn y GIG;
b) datblygu ateb
ariannu cynaliadwy hirdymor mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys fformiwla
ariannu genedlaethol newydd, cynllun gweithlu, a manyleb gwasanaeth gofal
lliniarol a diwedd oes; ac
c) ymestyn adolygiad
cyllid gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru, y disgwylir iddo ddod i ben ym mis
Ionawr 2024, os nad yw hyn yn ymarferol o fewn yr amserlen hon.
Cefnogwyr
Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cefin Campbell
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood
(Gogledd Cymru)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/02/2024