NDM8445 Dadl Plaid Cymru - Tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol
NDM8445 Dadl Plaid Cymru - Tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol
NDM8445 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 28 y
cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi.
2. Yn nodi'r
gydberthynas rhwng tlodi plant a'r bwlch cyrhaeddiad addysgol.
3. Yn nodi'r
canlyniadau PISA diweddaraf a'r adroddiad cenedlaethol a ddangosodd fod 11 y
cant o ddysgwyr yng Nghymru wedi methu pryd o fwyd oherwydd tlodi.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) ymestyn y
ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd
hynny sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, heb uchafswm o ran enillion; a
b) gweithredu
targedau statudol yn y Strategaeth Tlodi Plant derfynol i gyfrannu at gau'r
bwlch cyrhaeddiad a gwella canlyniadau addysg.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le:
Yn credu mai addysgu a
dysgu o ansawdd uchel yw’r ffactor pwysicaf mewn ysgolion ar gyfer mynd i’r
afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.
Yn croesawu:
a) gwell
ffocws mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ar yr ystod o ddulliau addysgu a
dysgu sydd eu hangen i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar brofiadau a
deilliannau dysgwyr.
b) diogelu
yn y gyllideb ddrafft y Grant Datblygu Disgyblion a chanllawiau newydd i
gefnogi ysgolion i dargedu’r cyllid hwn yn well.
c) y
gwaith a wneir gan Bencampwyr Cyrhaeddiad Llywodraeth Cymru i rannu eu
profiadau o fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a’r bwriad i
ddatblygu hyn ymhellach.
d) y rôl y
gall Ysgolion Bro ei chwarae i helpu rhieni a theuluoedd i gymryd diddordeb yn
addysg y plant, ac i ddatblygu’r amgylchedd dysgu yn y cartref.
e)
rhaglenni fel Hanfodion Ysgol a Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf sy’n darparu
cymorth amhrisiadwy i leihau costau byw i deuluoedd.
Yn nodi bod
canlyniadau PISA wedi canfod bod addysg yng Nghymru yn decach na chyfartaledd
yr OECD a gwledydd eraill y DU, gyda’r bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng dysgwyr
mwy difreintiedig a dysgwyr llai difreintiedig.
Grant Datblygu Disgyblion: canllawiau
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 4, dileu
isbwynt a) a rhoi yn ei le:
hyrwyddo'r
ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd
hynny sy'n cael Credyd Cynhwysol;
Gwelliant 3 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4:
mynd i'r afael â'r
tanberfformiad economaidd sy'n achosi tlodi plant yng Nghymru;
Gwelliant 4 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4:
gwella effeithlonrwydd
ac effeithiolrwydd rhaglenni sy’n cael eu hariannu â grantiau;
Gwelliant 5 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4:
cydnabod
bod atebion syml sy'n canolbwyntio ar eu galluogi i gael y gorau o addysg
prif ffrwd, yn hollbwysig i'r mwyafrif helaeth o blant sy'n byw mewn tlodi;
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2024