NDM8447 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canlyniadau PISA
NDM8447 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canlyniadau PISA
NDM8447 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi canlyniadau
Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2022, a gyhoeddwyd ar 5 Rhagfyr 2023.
2. Yn gresynu at y
ffaith:
a) bod
perfformiad Cymru wedi gostwng i'w lefel isaf erioed mewn profion mathemateg,
darllen a gwyddoniaeth a gymerwyd gan bobl ifanc 15 oed;
b) mai canlyniadau
Cymru oedd yr isaf o holl wledydd y DU, am y pumed tro yn olynol; ac
c) bod canlyniadau
Cymru yn is na chyfartaledd yr OECD.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) blaenoriaethu
addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth;
b) sicrhau bod y rhai
sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt, heb unrhyw
doriadau i anghenion dysgu ychwanegol yng nghyllideb 2024-25;
c) ailgyflwyno math o
brofion safonedig ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol i helpu rhieni ac
athrawon i fonitro cynnydd dysgwyr yn ystod cyfnodau allweddol a chymharu
perfformiad;
d) datblygu rhaglen
well ar gyfer dysgwyr mwy abl a thalentog; ac
e) cael gwared ar y
consortia addysg rhanbarthol a buddsoddi arbedion a wnaed yng nghyllidebau
ysgolion.
Canlyniadau PISA 2022 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod y pandemig
wedi effeithio ar sgoriau PISA ledled y byd.
Yn cydnabod bod Cymru
wedi gweld gwelliant mewn llythrennedd a rhifedd yng nghanlyniadau PISA 2018,
fodd bynnag mae’r cynnydd hwnnw wedi dirywio ers y pandemig.
Yn croesawu:
a) lansio cynlluniau llythrennedd a rhifedd i
godi safonau yn y meysydd allweddol hyn;
b) bod y cyllid i gefnogi dysgwyr ag Anghenion
Dysgu Ychwanegol wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod
wedi’i ddiogelu yn y gyllideb ddrafft;
c) bod Asesiadau Personol ar-lein yn cael eu
defnyddio mewn ysgolion ledled Cymru i gefnogi addysgu a dysgu, ac y bydd data
o’r asesiadau yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol i olrhain cynnydd; a
d) sefydlu Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol i
gefnogi ysgolion i wella cyfraddau presenoldeb.
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) blaenoriaethu'r
gwaith o recriwtio a chadw athrawon a chynorthwywyr addysgu, yng ngoleuni data
CGA sy'n dangos bod 16% o athrawon ysgol yn bwriadu gadael y proffesiwn o fewn
y tair blynedd nesaf a bod tua 40% o staff cymorth dysgu yn bwriadu gadael yn y
5 mlynedd cyntaf;
b) sicrhau bod y rhai
sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt, gan gynnwys
drwy gyfrwng y Gymraeg, heb unrhyw doriadau yn cael eu gwneud i anghenion dysgu
ychwanegol yng nghyllideb 2024-25;
c)
lansio adolygiad cyflym i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb addysg yng Nghymru,
gan adrodd ar gyfres o argymhellion ystyrlon a'u gweithredu.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2024