P-06-1391 Dylid rheoleiddio'r sector steilio cwn, er mwyn diogelu lles cwn a hawliau perchnogion
P-06-1391 Dylid rheoleiddio'r sector steilio cwn, er mwyn diogelu lles cwn a hawliau perchnogion
Petitions4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Brian Howell, ar ôl casglu 284 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym o’r farn y byddai sefydlu canllawiau clir, gofynion trwyddedu a safonau
yn y diwydiant yn helpu lles a diogelwch cŵn yn ystod triniaethau steilio.
Nid oes fframwaith rheoleiddiol ar gyfer y sector, boed hynny ar lefel awdurdod
lleol neu genedlaethol. Nid yw'n dod o fewn goruchwyliaeth unrhyw elusen na'r
RSPCA.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf gwelwyd twf mawr ym mherchnogaeth cŵn
a'r busnesau sy'n diwallu eu hanghenion. Mae'n hen bryd sefydlu safonau.
Gwybodaeth Ychwanegol:
1. Lles Anifeiliaid: Mae'n hanfodol blaenoriaethu lles cŵn a’u trin yn
drugarog. Bydd rheoleiddio yn hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol, yn lleihau
lefelau straen, ac yn lleihau niwed/anafiadau posibl a achosir gan steilwyr
esgeulus neu anghymwys.
2.Hyfforddiant/Ardystio: Mae steilio cŵn heb ei reoleiddio wedi arwain
at unigolion anhyfforddedig yn gweithredu heb y wybodaeth angenrheidiol am
anghenion bridiau penodol, arferion hylendid, neu weithdrefnau trin a steilio.
Dylai meddu ar safon ofynnol o Gymorth Cyntaf Anifeiliaid fod yn elfen
ragofynnol.
3. Iechyd a diogelwch: Canllawiau
iechyd a diogelwch gofynnol i gynnal amgylchedd diogel. Camau glanweithdra
cywir, cynnal a chadw offer a chydymffurfio â phrotocolau hylendid, sy'n
hanfodol wrth atal lledaeniad heintiau / parasitiaid / clefydau.
4. Trwyddedu / Archwilio:
Hyfforddiant/ardystiad yswiriant a chydymffurfio â rheoliadau iechyd a
diogelwch.
5. Gosod safonau: Mae rheoleiddio'n cynnig sicrwydd safonau i berchnogion
drwy nodi pa ymarferwyr sy’n gymwys.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 14/07/2025 penderfynodd
y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/03/2024.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2024
Dogfennau