P-06-1384 Cyflwyno deddfwriaeth i'w gwneud yn orfodol cael diffibriliwr mewn gweithleoedd a chlybiau chwaraeon
P-06-1384 Cyflwyno deddfwriaeth i'w gwneud yn orfodol cael diffibriliwr mewn gweithleoedd a chlybiau chwaraeon
Petitions4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Sharon Owen, ar ôl casglu 380 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
diffibriliwr yn ddyfais sydd wedi'i chynllunio i achub bywydau mewn argyfwng.
Mae'n chwarae rhan hanfodol mewn darparu gofal yn y man a’r lle i unigolion
sy'n dioddef ataliad y galon. Yn ystod argyfwng meddygol o'r fath, mae amser yn
hanfodol, a gall presenoldeb diffibriliwr wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw.
Mae ymchwil wedi dangos bod cyfraddau goroesi yn cynyddu i 50-70% lle defnyddir
diffibriliwr. Mae'r dyfeisiau hyn yn hawdd eu defnyddio—gall unigolion heb fawr
o hyfforddiant eu defnyddio.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Drwy
ychwanegu’r ddeddfwriaeth hon, byddai mwy o ddiffibriliwyr o fewn cyrraedd pobl
yn eu gweithleoedd a’u clybiau chwaraeon, ac o’r herwydd byddai cyfraddau
goroesi’n cynyddu ymysg pobl sy’n dioddef ataliad y galon yn y mannau hyn.
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 13/05/2024 penderfynodd
y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/05/2024.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2024