NDM8440 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Amaeth
NDM8440 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Amaeth
NDM8440 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y rôl
eithriadol y mae'r sector amaethyddol yn ei chwarae yng Nghymru, gydag
amaethyddiaeth yn cyfrannu at dros 220,000 o swyddi.
2. Yn nodi, am bob £1
a fuddsoddir yn y sector amaethyddol, y cynhyrchir £9 i'r economi ehangach.
3. Yn dathlu'r rôl y
mae ffermydd teuluol yn ei chwarae wrth gefnogi'r Gymraeg a gwead cymdeithasol
cefn gwlad Cymru.
4. Yn gresynu bod
Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno toriadau i gyllideb 2023-24 materion gwledig,
sef cyfanswm o £37.5 miliwn.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd unrhyw doriadau yn cael eu gwneud i gyllideb
cynllun y taliad sylfaenol ar gyfer 2024.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cytuno ag egwyddor Llywodraeth Cymru fod
yn rhaid i’w pholisi gadw ffermwyr Cymru ar y tir.
2. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i
gynnal Cynllun y Taliad Sylfaenol yn 2023 ac i beidio â dilyn y penderfyniad yn
Lloegr i leihau taliadau i ffermwyr hyd at 55 y cant.
3. Yn gresynu at y niwed a achosir i allu
ffermio yng Nghymru i greu gwerth economaidd a swyddi yn sgil:
a) polisi Llywodraeth y DU ar fewnfudo ers
ymadael â’r UE;
b) deiliadaeth drychinebus Prif Weinidog
blaenorol y DU;
c) penderfyniad Llywodraeth y DU i dynnu £243
miliwn oddi ar y cyllid ar gyfer cefnogi ffermydd yng Nghymru; a
d) penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â rhoi
ymrwymiad hirdymor o ran cyllid i gefnogi ffermydd.
4. Yn cytuno bod angen cyfnod pontio teg a
chyflym tuag at ddulliau ffermio cynaliadwy ar draws Cymru, er mwyn atgyfnerthu
sefyllfa economaidd ffermwyr Cymru ac er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf yr
argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/01/2024