NDM8419 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion
NDM8419 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion
NDM8419 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion yng Nghymru ymhellach.
2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai:
a) gosod dyletswydd ar
ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio casglwyr dyledion sydd wedi
cofrestru i god ymddygiad sy'n amddiffyn pobl fregus mewn argyfwng costau byw
yn unig;
b) cyflwyno cod
ymddygiad Cymru gyfan ar gyfer yr holl asiantau casglu dyledion sydd wedi'u
cofrestru yng Nghymru; ac
c)
grymuso awdurdodau safonau masnach lleol ymhellach i weithredu yn erbyn
asiantau sy'n camarwain preswylwyr ynghylch eu pwerau a hawliau preswylwyr.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/01/2024