NDM8437 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strategaeth ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd
NDM8437 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Strategaeth ar gyfer cludo llwythi ar y ffyrdd
NDM8437 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod rôl
cludo nwyddau ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg wrth gefnogi economi Cymru.
2. Yn gresynu na fu
strategaeth benodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cludo nwyddau ar y
ffyrdd ers 2008.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth benodol ar gyfer cludo
nwyddau ar y ffyrdd sy'n cynnwys:
a) canolfannau
llesiant diogel ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru;
b) rhwydwaith helaeth
o bwyntiau gwefru ac ail-lenwi ar gyfer coetsys a cherbydau nwyddau trwm
trydan neu hydrogen; ac
c) newidiadau i'r
system gynllunio yng Nghymru i sicrhau y gellir darparu seilwaith cludo nwyddau
ar y ffyrdd mor effeithlon â phosibl.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De
Cymru)
Ychwanegwch fel
pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 a'u hailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu effaith
niweidiol Brexit ar y sector cludo llwythi ar y ffyrdd a'r diwydiant logisteg
yng Nghymru, gyda chyfeintiau llwythi Cymru 27 y cant yn is na lefelau 2019 o
hyd.
Yn credu y byddai
ailymuno â Marchnad Sengl Ewrop yn rhoi hwb hanfodol i fasnach llwythi ym
mhorthladdoedd Cymru megis Caergybi, a'r sector cludo llwythi ar y ffyrdd a'r
diwydiant logisteg ar draws Cymru.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi yn eu lle:
Yn nodi bod Llwybr
Newydd yn amlinellu’r ffordd ymlaen ar gyfer cludo llwythi a logisteg ac yn
cefnogi datblygiad cynllun ar gyfer cludo llwythi a logisteg.
Yn cefnogi’r gwaith
hwn, a fydd yn golygu ffordd aml-ddull o gydweithio gyda diwydiant i hyrwyddo:
a) gwelliannau i’r
cyfleusterau llesiant diogel ar gyfer gyrwyr lorïau a choetsys ledled Cymru;
b) camau i sicrhau bod
Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i fanteisio ar dechnolegau newydd sy'n
gysylltiedig â cherbydau nwyddau trwm a choetsys trydan a hydrogen, gan
adlewyrchu ansicrwydd o fewn y diwydiant ynghylch y datblygiadau hyn; ac
c) gwaith i fabwysiadu
dull cenedlaethol a strategol o wella’r seilwaith ar gyfer cludo llwythi ar y
ffyrdd ledled Cymru.
Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru
2021 | LLYW.CYMRU
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/01/2024