NDM8420 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach

NDM8420 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach

NDM8420 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 2 Rhagfyr 2023.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi cymunedau a datblygu’r economi leol.

3. Yn croesawu’r toriadau gan Ganghellor y Trysorlys i gyfraniadau yswiriant gwladol, a fydd o fudd i bobl hunangyflogedig o fis Ebrill 2024 ymlaen.

4. Yn annog cymunedau i siopa’n lleol i gefnogi busnesau bach i dyfu a ffynnu.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio pob ysgogiad sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well; a

b) parhau i gefnogi busnesau bach drwy newidiadau i bolisïau caffael ar draws y sector cyhoeddus.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at y ffaith bod y Cangellorion dros y blynyddoedd diwethaf wedi camreoli’r economi gan achosi niwed y byddai wedi bod yn bosibl ei osgoi i fusnesau bach sydd bellach yn wynebu costau ynni a chostau morgais uwch o’u cymharu â busnesau o’r un maint mewn economïau tebyg.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu na fydd y toriad arfaethedig i Yswiriant Gwladol yn gwneud fawr ddim i leddfu effaith llusgiad cyllidol ar weithwyr Cymru yn y sector busnesau bach.

Yn gresynu ymhellach fod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi israddio ei rhagolygon twf am y ddwy flynedd nesaf, a fydd yn atal ffyniant ein sector busnesau bach a chanolig.

Gwelliant 3 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu:

a) y cymorth y mae busnesau bach ac entrepreneuriaid wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru drwy wasanaethau a mentrau fel Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a’r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes; a

b) dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r economi bob dydd a’r cynnydd a wnaed er mwyn helpu mwy o fusnesau bach i ennill mwy o gontractau ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/01/2024