NDM8409 Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat
NDM8409 Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat
NDM8409 Heledd Fychan (Canol De
Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y pwysau costau byw
parhaus sy'n wynebu rhentwyr;
b) y cynnydd rhent
cyfartalog blynyddol yng Nghymru o 13.9 y cant yn 2021-22;
c) y cynnydd rhent
cyfartalog pellach yng Nghymru o 6.5 y cant yn 2022-23, gyda Shelter Cymru yn
nodi enghreifftiau o renti'n codi 100 y cant;
d) mai rhenti
myfyrwyr yw 60 y cant o becyn cynhaliaeth cyfartalog y DU, gyda 32 y
cant o fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru yn methu â thalu eu rhenti.
2. Yn credu na ddylai
unrhyw un yng Nghymru gael ei roi mewn perygl o fod yn ddigartref o
ganlyniad i chwyddiant uchel a diffyg stoc tai fforddiadwy.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i wneud yr hyn a ganlyn yn y sector
preifat:
a) rhewi rhenti;
b) cyflwyno mesurau i
wahardd troi allan y gaeaf hwn.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pwysau
parhaus o ran costau byw y mae pobl sy’n rhentu yn eu hwynebu.
2. Yn croesawu’r
ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda
Phlaid Cymru, i gyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ynghylch posibilrwydd
sefydlu system o renti teg a hefyd ddulliau newydd o sicrhau bod cartrefi’n
fforddiadwy i bobl ar incwm isel.
3. Yn croesawu’r camau
pendant, uchelgeisiol a radical ar gyfer diwygio yn y dyfodol a amlinellir yn y
Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb
Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
4. Yn credu na ddylai
unrhyw un yng Nghymru wynebu'r posibilrwydd o ddigartrefedd yn sgil
budd-daliadau annigonol sy’n gysylltiedig â thai;
5. Yn cydnabod mai’r
dull unigol mwyaf ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau fforddiadwyedd yn y
sector rhentu preifat yw cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol, ac yn galw ar Lywodraeth
y DU i godi’r cyfraddau er mwyn adlewyrchu gwir gost rhent.
Papur
Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) cymryd camau brys i droi’r miloedd o
eiddo gwag yng Nghymru yn gartrefi unwaith eto;
b) ystyried cyfleoedd gyda’r sector i atal
landlordiaid rhag gadael y farchnad rentu yng Nghymru;
c) gweithio gyda landlordiaid a deiliaid
contractau i atal troi pobl allan dros fisoedd y gaeaf;
d) cyflwyno cynllun gweithredu i adeiladu
12,000 o dai bob blwyddyn; ac
e) gwneud datganiad ar yr adolygiad o Rhentu
Doeth Cymru.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/01/2024