Ymchwiliad i Urddas a Pharch
Ymchwiliad i Urddas a Pharch
Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal
ymchwiliad i Urddas a Pharch.
Cytunodd y Senedd
ar bolisi urddas a pharch yn 2018 a oedd yn amlinellu’r hawl i bawb deimlo’n
ddiogel ac wedi’u hamddiffyn wrth ryngweithio â’r Senedd. Roedd y polisi hwn yn
berthnasol i Aelodau o’r Senedd, eu staff cymorth, a staff y Comisiwn. Ochr yn
ochr â hyn, cynhaliodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Bumed Senedd ymchwiliad i
'Creu'r Diwylliant Cywir' a oedd yn ceisio sicrhau bod diwylliant y Senedd yn
un cadarnhaol ac agored.
Bum mlynedd ar ôl
y gwaith, mae'r Pwyllgor yn awyddus i adolygu'r cynnydd a wnaed yn y maes hwn,
sicrhau bod y sgwrs yn y maes hwn yn parhau, ac ystyried a ellid cymryd camau
pellach.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/11/2023
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i Urddas a Pharch (Wedi ei gyflawni)