NDM8397 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ansawdd dŵr
NDM8397 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ansawdd dŵr
NDM8397 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod carthion a
gaiff eu gollwng i ddyfroedd Cymru yn cyfrif am 25 y cant o'r holl ollyngiadau
ledled Cymru a Lloegr;
b) mai yng Nghymru y
mae chwech o'r 20 afon mwyaf llygredig yn y DU ledled Cymru a Lloegr; ac
c) mai gan bobl yng
Nghymru y mae'r biliau dŵr uchaf allan o'r 11 cwmni dŵr yng Nghymru a
Lloegr.
2. Yn gresynu nad yw
Adroddiad Gorlifiadau Stormydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd saith mis yn
hwyr, yn cynnwys unrhyw argymhellion.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) gosod targedau ar
Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru sy'n eu rhwymo mewn cyfraith i wella
gorlifiadau;
b) cynyddu gorfodaeth
a sicrhau bod dirwyon yn cael eu defnyddio i wella afonydd ac adfer
cynefinoedd; ac
c) mynd i'r afael â
phibellau carthion heb drwyddedau a sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon.
Gorlifiadau
Stormydd Cymru: adroddiad (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r cynnydd arwyddocaol yn nifer yr
afonydd sydd wedi sicrhau statws ecolegol da yng Nghymru ers 1999.
2. Yn nodi’r fframwaith cyfreithiol llym y mae
cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr yn gweithio ynddo.
3. Yn gwrthwynebu polisi Llywodraeth y DU i
godi’r gofynion o ran niwtraleiddio maethynnau a fyddai’n rhoi ein hafonydd
bregus mewn mwy o risg.
4. Yn nodi:
a) bod Llywodraeth
Cymru’n cefnogi rhagor o wahanu dŵr wyneb er mwyn lleihau’r pwysau ar
systemau dŵr gwastraff trwy brysuro’r defnydd o systemau rheoli llifogydd
yn naturiol a systemau draenio cynaliadwy.
b) y bydd Llywodraeth
Cymru’n defnyddio’i phwerau i sicrhau bod holl gwmnïau dŵr Cymru’n gostwng
o flwyddyn i flwyddyn nifer yr achosion o lygru, gan weithio at y nod o sero,
ond yn y tymor byr, eu bod yn rhoi stop ar bob achos o lygru difrifol.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De
Cymru)
Ychwanegu fel
is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 3:
sicrhau bod gan
Cyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau i'w alluogi i gyflawni ei
gyfrifoldebau'n effeithiol;
rhoi mecanweithiau ar
waith i atal taliadau bonws i staff gweithredol pe bai Dŵr Cymru yn methu
â chyflawni ei gyfrifoldebau o ran ansawdd dŵr;
cyflymu'r
gwaith o weithredu fframweithiau llywodraethu amgylcheddol cadarn yng Nghymru i
sicrhau bod achosion o ddiffyg cydymffurfio yn y dyfodol yn cael sylw cyn
gynted â phosibl.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/01/2024