NDM8384 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digartrefedd
NDM8384 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digartrefedd
NDM8384 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i fynd
i'r afael â digartrefedd yng Nghymru.
2. Yn credu na fydd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar
roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
3. Yn nodi gyda phryder fod nifer yr unigolion sy'n
cysgu ar y stryd wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 2020.
4. Yn cydnabod nad yw saith awdurdod lleol yn
cofnodi gwybodaeth am farwolaethau digartrefedd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sefydlu rhwydwaith ar gyfer Cymru sy'n cyfateb i'r Combined Homelessness
and Information Network, i sicrhau bod digon o ddata ar gael i fynd i'r afael â
digartrefedd yng Nghymru a'i effaith.
Papur
Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwellliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu’r diwygio dewr, uchelgeisiol a
radical ar gyfer y dyfodol a nodir yn y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar
Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
2. Yn nodi cyfraniad hanfodol y rhai sydd â
phrofiad bywyd o ddigartrefedd wrth baratoi’r Papur Gwyn a barn Prif Weithredwr
Crisis bod yr uchelgais a welir ynddo yn arwain y byd.
3. Yn annog ymatebion i’r ymgynghoriad a fydd yn
helpu i lunio’r dull o fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru yn y dyfodol.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/11/2023