NDM8369 Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau bws
NDM8369 Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau bws
NDM8369 Heledd
Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod
gwasanaethau bws yn hanfodol i gysylltedd cymunedau Cymru ac i blant sy'n
teithio i'r ysgol.
2. Yn nodi bod y
Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi rhybuddio am doriadau pellach i
ddarpariaeth gwasanaethau bysiau Cymru heb warantau pendant ynghylch cyllid
hirdymor gan Lywodraeth Cymru.
3. Yn gresynu bod bron
i 10 y cant o lwybrau bysiau Cymru wedi cael eu dileu dros yr haf oherwydd bod
cyllid y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau wedi dod i ben.
4. Yn gresynu y bydd
diwedd Grant y Rhaglen Datblygu Gwledig yn arwain at gau
gwasanaeth fflecsi Bwcabus yn llwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a
Sir Benfro erbyn 31 Hydref ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn
cael ei adfer.
5. Yn credu y gellid
gosod rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru ar sail gynaliadwy pe bai Cymru'n
cael ei chyfran deg o gyllid HS2.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau bysiau ledled Cymru, buddsoddi ynddynt
a’u hehangu.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 2, 3 a
4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru, erbyn diwedd 23/24, wedi darparu gwerth dros £200m o gyllid
brys i’r diwydiant bysiau.
Yn
nodi bod methiant Llywodraeth y DU i gadw at ei haddewid, sef na fyddem mewn
sefyllfa waeth yn sgil Brexit, wedi arwain awdurdodau lleol at derfynu’r
gwasanaeth Bwcabws.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/10/2023