P-06-1364 Argyfwng deintyddiaeth yng Nghymru. Rhaid sicrhau bod gan bob oedolyn a phlentyn fynediad at ddeintydd
P-06-1364 Argyfwng deintyddiaeth yng Nghymru. Rhaid sicrhau bod gan bob oedolyn a phlentyn fynediad at ddeintydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Allan Hudspeth, ar ôl casglu 637 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ym mis Hydref 2022, roedd rhestr aros 26 mis i gofrestru gyda deintydd GIG
a chael archwiliad yng Nghymru.
Roedd llythyr agored gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain deintyddion y GIG
yn beirniad contractau newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac yn galw am
welliannau a buddsoddiadau y mae mawr eu hangen i sicrhau bod pawb yng Nghymru
yn gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol.
Roedd yn mynegi pryderon ynghylch llawer o ddeintyddion yn gadael y GIG i
fynd i bractis preifat.
https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-64351984
Dylai pawb gael mynediad at ofal deintyddol, archwiliadau rheolaidd a
thriniaeth amserol.
Gwybodaeth ychwanegol:
Yn anffodus, mae fy neintydd wedi gadael y GIG i fynd i bractis preifat. O
ganlyniad, rwyf wedi bod yn chwilio am ddeintydd GIG arall ac mae’r un agosaf y
gwnes i ei ganfod 79 milltir o fy nghartref, sy’n annerbyniol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/11/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried bod y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol eisoes wedi cynnal gwaith craffu manwl yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf – a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o
argymhellion ei hadroddiad – nid yw’n glir beth arall y gallai’r Pwyllgor ei
wneud ar hyn o bryd er mwyn ychwanegu gwerth pellach.
Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb,
gan ddiolch i’r deisebydd am amlygu'r mater pwysig hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor
o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
13/11/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Islwyn
- Dwyrain De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/10/2023