NDM8361 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Asedau cymunedol
NDM8361 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Asedau cymunedol
NDM8361 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod
asedau cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol ac yn darparu mynediad pwysig
at wybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol.
2. Yn cydnabod
ymhellach fod asedau cymunedol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn caniatáu i
gymunedau lleol gymryd rheolaeth dros lunio'r ardal y maent yn byw ynddi.
3. Yn nodi adroddiad
Archwilio Cymru ar gydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau, sy’n nodi bod
awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd grymuso pobl a chymunedau i fod yn fwy
hunanddibynnol ac yn llai dibynnol ar wasanaethau.
4. Yn gresynu nad oes
hawl statudol i gymunedau yng Nghymru brynu tir neu asedau fel yn yr Alban, a
dim hawl i wneud cynigion, herio, nac adeiladu fel yn Lloegr.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) diogelu asedau
cymunedol drwy alluogi pobl leol i reoli ac ehangu cyfleusterau sydd o fudd i’r
gymuned leol; a
b) cyflwyno Cronfa
Perchnogaeth Gymunedol a chynllun Hawl i Wneud Cynnig i gefnogi meddiannu
asedau megis llyfrgelloedd, tafarndai, canolfannau hamdden a mannau gwyrdd.
Archwilio
Cymru: 'Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau
Cefnogwyr
Natasha Asghar (Dwyrain De
Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwyntiau 4 a 5 a
rhoi yn eu lle:
Yn croesawu ymrwymiad
hirdymor Llywodraeth Cymru i:
a) amddiffyn asedau cymunedol drwy alluogi
pobl leol i gynnal ac ehangu cyfleusterau sydd er budd i’r gymuned leol;
b) cydnabod, hyrwyddo a rhannu arferion gorau
ar draws y sector cyhoeddus drwy Ystadau Cymru; ac
c) sefydlu Comisiwn Asedau Cymunedol â chylch
gorchwyl i ysgogi syniadau arloesol pellach ar berchnogaeth gymunedol o dir ac
asedau yng Nghymru.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/10/2023