P-04-408: Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc
P-04-408 :
Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
ariannu’r Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc yng
Nghymru i’r un graddau â’r Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Oedolion yng
Nghymru.
Daeth i’m sylw bod symiau gwahanol o arian yn cael eu rhoi i Wasanaethau
i Oedolion a Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc ar gyfer ymdrin ag anhwylder
bwyta. Ar hyn o bryd, mae’r Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Oedolion yn
cael £1 filiwn y flwyddyn gan Gynulliad Cymru, yn ogystal â phedwar grŵp darparu a hyfforddwyd gan arbenigwyr. Yn
anffodus, mae gwaith ymchwil yn nodi’r ffaith bod pobl yn fwyaf tebygol o gael eu profiad cyntaf o anhwylder
bwyta, yn enwedig Anorecsia Nerfosa, yn ystod eu glaslencyndod. Yn hanesyddol,
roedd pobl yn cyrraedd glaslencyndod pan oeddent rhwng 12 a 15 oed. Fodd
bynnag, bellach, mae hyn yn digwydd pan fydd pobl yn llawer iau ac felly mae’r
ystadegau’n dechrau dangos bod mwy o blant iau yn dioddef o Anorecsia Nerfosa.
Bydd pobl fel arfer yn dechrau dioddef o Fwlimia Nerfosa pan fyddant rhwng 18 a
25 oed. Fodd bynnag, fel gydag Anorecsia, gall hyn amrywio o berson i berson. Mae’r ffaith mai cymryd camau buan yw’r
allwedd i sicrhau gwellhad cyflym mewn perthynas â’r ddau anhwylder, ac, yn
ddiau, pob anhwylder bwyta y gellir ei ddiagnosio, sy’n atal goblygiadau
ariannol hirdymor i’r Llywodraeth, yn gwneud y cais hwn yn fwy perthnasol.
Felly, rwy’n ymbil ar y Cynulliad i ystyried hyn yn flaenoriaeth ar gyfer dadl
i gael gwared ar y gwahaniaeth hwn drwy roi’r un swm o arian i’r Gwasanaeth i
Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Nghymru ag a roddir i’r
Gwasanaeth i oedolion.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y
Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-505
Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru a chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb o
ystyried bod adolygiad annibynnol manwl o wasanaethau anhwylderau bwyta wedi’i
gynnal a bod Llywodraeth Cymru yn craffu ar ymatebion y byrddau iechyd i
argymhellion yr adolygiad, ynghyd â darparu adnoddau ychwanegol ei
hun. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i longyfarch y deisebydd ar ei waith
yn cyflawni gwelliannau o ran gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/07/2012.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Helen Missen
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 17
Gorffennaf 2012
Nifer y llofnodion: . 246
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/02/2020
Angen Penderfyniad: 11 Awst 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad