P-06-1363 Achubwch ein Gwasanaeth Tân ac Achub
P-06-1363 Achubwch ein Gwasanaeth Tân ac Achub
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Gavin Roberts, ar ôl casglu 1,937 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ynghyd â’r Awdurdod Tân, yn bwriadu
israddio gorsafoedd Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy o orsafoedd 24 awr i orsafoedd
sydd wedi’u staffio yn ystod y dydd, gan adael y gorsafoedd yn wag gyda’r nos.
(Opsiwn 2).
Gwybodaeth ychwanegol:
Dylai
Llywodraeth Cymru ystyried yr holl opsiynau i sicrhau y gellir cadw gorsafoedd
wedi’u staffio 24 awr y dydd mewn canolfannau trefol mawr fel Y Rhyl, a
chymunedau tebyg ym mhob rhan o Gymru. Mae’r tri opsiwn presennol yn cynnig
toriadau, cau gorsafoedd ac israddio safonau’r gwasanaethau yn ein trefi
arfordirol.
Ar
hyn o bryd, mae tair gorsaf amser llawn yng ngogledd Cymru, sef Wrecsam,
Glannau Dyfrdwy a’r Rhyl. Mae staff yno 24 awr o’r dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
O dan y cynigion presennol, gall Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy gael eu hisraddio i
orsafoedd sydd â staff neu griw yno yn ystod y dydd yn unig, gan ddibynnu ar
bersonél ar alw yn ymateb o’u cartrefi gyda’r nos. Ar y cyd â’r terfyn
cyflymder 20mya newydd, rhagwelir y gallai fod 8-10 munud o oedi wrth gyrraedd
digwyddiad.
Mewn
tân, mae pob eiliad yn bwysig, a bydd hyn yn sicr o achosi anafiadau, a hyd yn
oed marwolaethau.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Aberconwy
- Gogledd Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2023
Dogfennau