P-06-1360 Dylid adeiladu ffordd ymadael syml rhwng yr M48 tua'r gorllewin a'r M4 tua'r dwyrain yn Rhosied

P-06-1360 Dylid adeiladu ffordd ymadael syml rhwng yr M48 tua'r gorllewin a'r M4 tua'r dwyrain yn Rhosied

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Matthew Kimberley, ar ôl casglu 368 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Bob tro mae Pont Hafren (Croesfan yr M48) ar gau i draffig, mae’r ardal sy’n cynnwys Cas-gwent, Cil-y-coed, Magwyr gyda Gwndy a Dwyrain Casnewydd yn llythrennol dod i stop. Yn fras, y rheswm dros hynny yw bod yn rhaid i draffig Cas-gwent sy’n anelu am Loegr naill ai gylchu o amgylch yr isffyrdd heibio Cil-y-coed a thrwy Fagwyr, neu fynd yn syth i lawr yr M48 i gyffordd 23 yr M4, gan droi o amgylch y gylchfan yn eu lluoedd, ac atal traffig Casnewydd a Magwyr rhag llifo allan i gyffordd 23. Mae’n rhaid dirwyn y sefyllfa hon i ben, ac mae modd gwneud hynny.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Ar 13/03/2023 am 07:25 gadewais fy nghyfeiriad yng Ngwndy er mwyn mynd i weithio yn Portishead. Wedi gadael Manor Chase ar y B4245, ymunais â chiw o draffig bron ar unwaith, ac o ganlyniad roedd y daith arferol o tua phedwar/pum munud i gyrraedd ffordd ymuno tua’r dwyrain yr M4 ar gyffordd 23 wedi cymryd union ddwy awr a hanner. Roedd yn rhaid i mi ddyfalbarhau gan fy mod wedi cofrestru ar gwrs hyfforddi gorfodol a oedd yn gofyn am fod yno mewn person. Dyw’r stori hon ddim heb ei thebyg. Yr un yw’r profiad i gannoedd, os nad miloedd o bobl bob tro y mae Pont Hafren ar gau i draffig. Mae'n rhaid i'r gornel gyfan hon o Gymru ddioddef y sefyllfa hon a byddai’n hawdd lleddfu'r mater gyda ffordd ymadael syml a chymharol rad rhwng yr M48 tua'r gorllewin a'r M4 tua'r dwyrain rhwng Rhosied a Gwndy. Cae yn unig yw'r tir ar hyn o bryd, mae'r dopograffeg yn ffafriol a byddai ffordd ymadael yn atal traffig Cas-gwent rhag cau cylchfan cyffordd 23 yn llwyr, gan osgoi’r oedi hwn. 

 

 

A road with a white line on it

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 13/11/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru a nododd nad oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno ffordd ymadael yn y lleoliad hwn, ac na fyddai'r mater penodol hwn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ariannu ffyrdd newydd yn dilyn yr Adolygiad Ffyrdd.

 

Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/11/2023.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dwyrain Casnewydd
  • Dwyrain De Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2023