Mwyhau Cyllid yr UE - Y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a'r Rhaglen Datblygu Gwledig
Mwyhau Cyllid yr UE - Y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a'r Rhaglen Datblygu Gwledig
Ar 2 Mehefin
2023, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol adroddiad yn edrych i weld a oedd
WEFO a Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cymaint o arian â phosibl yn cael ei dynnu
i lawr o gronfeydd yr UE. Roedd yr adroddiad yn ymdrin â’r Rhaglen Cronfeydd
Strwythurol a’r Rhaglen Datblygu Gwledig ar gyfer 2014-2020. Cytunodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus i ystyried yr adroddiad, a chynhaliwyd sesiwn
dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru a WEFO ar 14 Medi 2023.
Yn dilyn hynny, ysgrifennodd
y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru a WEFO ar 24 Hydref 2023 i ofyn am ragor o
wybodaeth i helpu ystyriaeth y Pwyllgorau o adroddiad Archwilio Cymru ynghylch
Gwneud y Mwyaf o Arian yr UE. Cafodd y Pwyllgor ymateb
ar 15 Tachwedd 2023.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2023
Dogfennau