Craffu ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Craffu ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Fel rhan o’i
gylch gwaith, mae’r Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
yn gyfrifol am graffu ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru fel un o’r cyrff cyhoeddus
datganoledig yng Nghymru.
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth
yn casglu a gwarchod deunyddiau sy’n ymwneud â Chymru a’r gwledydd Celtaidd
eraill. Mae’n rhan bwysig o fywyd diwylliannol ac addysgol Cymru.
Cafodd y
Llyfrgell ei sefydlu trwy Siarter Frenhinol ym 1907. Ei phrif swyddogaethau yw:
>>>>
>>>casglu
a gwarchod cofnod deallusol Cymru, mewn sawl cyfrwng gwahanol yn ogystal â
chasgliad helaeth o ddeunydd print a gyhoeddwyd yn bennaf drwy ei statws fel
llyfrgell ‘hawlfraint’ adneuo cyfreithiol
>>>rhoi
mynediad i amrywiaeth eang o bobl i’r ddysg a’r wybodaeth hon
<<<
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/09/2023