Y DU/Y Swistir: Confensiwn ar gydgysylltu nawdd cymdeithasol

Y DU/Y Swistir: Confensiwn ar gydgysylltu nawdd cymdeithasol

Cytundebau rhyngwladol mewn perthynas â Diolgelwch.

 

Adroddiad Pwyllgor, 9 Tachwedd 2021

 

Gweithredu pellach:

 

Y DU/Y Swistir: Confensiwn ar gydgysylltu nawdd cymdeithasol

 

Gosodwyd y cytundeb rhyngwladol hwn yn Senedd y DU ar 29 Medi. Ei ddyddiad cau ar gyfer craffu, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010, yw 22 Tachwedd 2021.

 

Nod y cytundeb hwn yw sefydlu trefniadau cydgysylltu nawdd cymdeithasol newydd ar ôl Brexit rhwng y DU a'r Swistir mewn perthynas â rhai buddion, gan gynnwys mynediad at ofal iechyd cilyddol. Fel Aelod-wladwriaeth, roedd trefniadau cydgysylltu nawdd cymdeithasol rhwng yr UE a’r Swistir yn berthnasol rhwng y DU a'r Swistir. Y tu allan i'r UE, byddai cydgysylltiad nawdd cymdeithasol rhwng y DU a'r Swistir yn digwydd ar delerau cytundeb dwyochrog 1968 yn absenoldeb cytundeb newydd.

 

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi yr ymgynghorwyd â'r llywodraethau datganoledig ac y cawsant eu cynnwys yn y gwaith o baratoi'r Confensiwn. Roedd hyn yn cynnwys swyddogion o Lywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru, a'r awdurdodau perthnasol yng Ngogledd Iwerddon.

 

Mae hefyd yn egluro bod negodi cytundebau gofal iechyd cilyddol a lles gwladolion y DU dramor yn faterion a gadwyd yn ôl, ond mae rhai o'r meysydd y mae cytundebau gofal iechyd cilyddol yn eu cynnwys wedi’u datganoli, gan gynnwys gofal iechyd domestig ac adennill costau ymwelwyr tramor.

 

Yn unol â hynny, mae Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu ac ymgynghori â swyddogion iechyd o'r gweinyddiaethau datganoledig drwyddi draw, gan rannu testun cyfreithiol drafft, cydgysylltu newidiadau mewn canllawiau a rheoliadau lle bo angen, a thrafod goblygiadau iechyd.

 

Fodd bynnag, nid yw'n glir a fydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli yng Nghydbwyllgor Gweinyddol newydd y DU/y Swistir a sefydlwyd gan y Confensiwn, lle gallai trafodaethau a gynhelir a phenderfyniadau a wneir ymwneud â meysydd cymhwysedd datganoledig.

 

Nodwyd y cytundeb a chytunwyd i:

>>>> 

>>>geisio rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am nifer o faterion, gan gynnwys goblygiadau'r cytundeb i gymhwysedd datganoledig;

>>>tynnu sylw Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd at y cytundeb yn sgil yr effaith ar drefniadau gofal iechyd y DU/y Swistir mewn meysydd datganoledig.

<<< 

Math o fusnes: Arall