Cytundeb Cydweithrediad Amddiffyn y DU/Kenya

Cytundeb Cydweithrediad Amddiffyn y DU/Kenya

Cytundeb rhyngwladol mewn perthynas ag amddiffyniad.

 

Adroddiad Pwyllgor, 11 Ionawr 2022

 

Nodwyd er gwybodaeth:

 

Cytundeb Cydweithrediad Amddiffyn y DU/Kenya (Saesneg yn unig)

 

Gosodwyd y cytundeb rhyngwladol hwn yn Senedd y DU ar 25 Tachwedd 2021. Y terfyn amser ar gyfer craffu arno, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010, yw 17 Ionawr 2022.

 

Nod y cytundeb hwn yw darparu trefniadau parthed statws lluoedd ar gyfer personél gwasanaeth a'u dibynyddion i wledydd ei gilydd i gynnal gweithgarwch cydweithredu amddiffyn. Mae'n adnewyddu ac yn diweddaru Cytundeb Cydweithrediad Amddiffyn 2016 gyda Kenya, a ddaeth i ben ar 6 Hydref 2021.

 

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y cytundeb yn ymwneud â chydweithrediad amddiffyn rhwng y DU a Kenya, sy'n ymwneud yn llawn â mater a gadwyd yn ôl heb unrhyw oblygiadau uniongyrchol i'r llywodraethau datganoledig. O'r herwydd, nid ymgynghorwyd â llywodraethau datganoledig ynghylch ei ddrafftio.

 

Nodwyd y cytundeb er gwybodaeth yn unig.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/09/2023