Cyllid Iechyd
Cyllid Iechyd
Cyhoeddodd
Archwilydd Cyffredinol Cymru adolygiad manwl o gyllid iechyd ym mis Gorffennaf
2012. Roedd yr adroddiad hwn yn nodi, gan fod y GIG a gwasanaethau cyhoeddus
eraill yng Nghymru yn wynebu heriau ariannol digynsail, nad oedd y patrymau
hanesyddol yn gynaliadwy, lle’r oedd Llywodraeth Cymru yn darparu arian
ychwanegol i gyrff y GIG yn ystod y flwyddyn i ymdopi â diffygion.
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad ar sail materion a nodwyd yn adroddiad
Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ymchwiliodd y Pwyllgor i’r safbwyntiau canlynol:
- rôl Llywodraeth Cymru o ran
cefnogi gwasanaethau iechyd;
- barn gyffredinol ar yr
heriau y mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ei gyfanrwydd yn eu hwynebu;
- a’r heriau penodol i’r
gwahanol fyrddau iechyd, fel materion daearyddol, demograffeg, ffiniau â
Lloegr etc.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/04/2013
Dogfennau