Bargeinion Dinesig a Thwf
Bargeinion Dinesig a Thwf
Bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig yn craffu ar weithgarwch o ran bargeinion dinesig a bargeinion twf
ym mhob un o’r pedwar rhanbarth economaidd yng Nghymru.
Crynodeb
Bydd y Pwyllgor
yn archwilio gweithgarwch o ran bargeinion dinesig a bargeinion twf ym mhob un
o’r pedwar rhanbarth economaidd yng Nghymru a’r ffordd y mae'n cyd-fynd â’r
strategaethau economaidd ar gyfer Cymru a’r DU.
Bydd y Pwyllgor
yn ystyried:
>>>>
>>>Y sefyllfa
bresennol o ran y pedair Bargen Ddinesig a Thwf a’r camau nesaf sydd yn yr
arfaeth i fwrw ymlaen â hwy
>>>Effaith
arfaethedig y Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf a’r ffordd y caiff hyn ei
lywodraethu, ei ariannu a’i fonitro
>>>Y
manteision posibl a gynigir gan y Bargeinion
>>>I ba
raddau y gallai'r Bargeinion Twf a'r Bargeinion Dinesig ddatrys neu waethygu
anghydraddoldebau presennol, o fewn rhanbarthau a rhyngddynt
>>>I ba
raddau y mae’r Bargeinion Twf a’r Bargeinion Dinesig yn cyd-fynd â strategaeth
Llywodraeth Cymru a strategaeth y DU ar gyfer datblygu a thwf rhanbarthol
<<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/08/2023