NDM8300 Dadl Plaid Cymru - Datganoli cyfiawnder a phlismona
NDM8300 Dadl Plaid Cymru - Datganoli cyfiawnder a phlismona
NDM8300 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi, dros
chwarter canrif ers datganoli, fod Cymru yn parhau i fod yr unig wlad
ddatganoledig heb ei system gyfreithiol a'i phwerau dros ei lluoedd heddlu, er
nad oes sail resymol dros hyn.
2. Yn credu:
a) y dylid datganoli
pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru; a
b) y gall sefydlu
system gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol
i'r Senedd fod yn gamau hanfodol ar hyd y ffordd i annibyniaeth.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau dros gyfiawnder a phlismona.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl
îs-bwynt 2 (a) a rhoi yn ei le:
y gall sefydlu system
gyfreithiol benodol yng Nghymru a gwneud heddluoedd Cymru yn gwbl atebol i'r
Senedd fod yn gamau hanfodol i sicrhau bod modd darparu cyfiawnder a phlismona
yn well er budd pobl Cymru; a
bod y Comisiwn ar
Gyfiawnder yng Nghymru wedi nodi'n glir pam y dylid datganoli pwerau dros
gyfiawnder yn llawn a sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol yng Nghymru.
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli
plismona a chyfiawnder ac i baratoi ar ei gyfer.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2023