NDM8282 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
NDM8282 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
NDM8282 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylid
cyhoeddi adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion cyfrifeg ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llawn ac y dylai fod yn y parth cyhoeddus.
2. Yn galw ar Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi adroddiad Ernst & Young.
3. Yn gofyn, o
ystyried canfyddiadau Ernst & Young, fod adolygiad ehangach ac annibynnol
yn cael ei ystyried i roi sicrwydd:
a) nad yw'r arferion a
nodwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn digwydd mewn sefydliadau
GIG eraill yng Nghymru; a
b) nad oedd arferion
tebyg wedi effeithio ar flynyddoedd ariannol cyn y rhai a adolygwyd gan Ernst
& Young
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y diddordeb sylweddol yn
adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn nodi galwadau i’w gyhoeddi.
2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn adroddiad Ernst &
Young yn unol â gweithdrefnau a pholisïau presennol a’i fod yn ceisio cyngor
cyfreithiol ynglŷn â’i gyhoeddi.
3. Yn nodi rôl Archwilio Cymru yn rhoi
sicrwydd ar reoli arian cyhoeddus a bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymarfer
dysgu gwersi a rhannu’r canfyddiadau ymysg sefydliadau’r GIG.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2023