P-06-1347 Adolygu polisïau anghenion dysgu ychwanegol a'i gwneud yn orfodol i hyfforddi pob athro a chynorthwyydd addysgu mewn technegau rheoleiddio YN LLAWN
P-06-1347 Adolygu polisïau anghenion dysgu ychwanegol a'i gwneud yn orfodol i hyfforddi pob athro a chynorthwyydd addysgu mewn technegau rheoleiddio YN LLAWN
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Clare Anna Mitchell, ar ôl casglu cyfanswm o
6,353 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rwy’n galw am adolygiad o’r polisïau anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn
ysgolion a chynnydd anferth yn y gefnogaeth a roddir i’r 40 y cant o’n plant
sy’n wynebu trafferthion bob dydd. Mae angen dysgu iddynt dechnegau hunanreoli
o'r blynyddoedd cynnar, a thrwy hynny greu ystafelloedd dosbarth hapusach, llai
trafferthus, a rhoi iddynt flwch offer a fydd gyda nhw am oes. Yn y tymor hir,
byddai gostyngiad mewn problemau iechyd meddwl, camddefnyddio cyffuriau ac
alcohol a chyfraddau troseddu.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Nid oes ond ychydig iawn o gyfleusterau addysgu arbenigol Cymraeg. Mae hyn
yn gwahaniaethu yn erbyn hawl plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg.
1. Dylai hyfforddiant athrawon yn y brifysgol ganolbwyntio'n sylweddol ar
ADY er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r
Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn effeithiol. Mae gan 40 y cant o ddysgwyr ryw
fath o ADY. Dylai hyn fod yn orfodol, nid dewisol! Mae strategaethau ADY yn
helpu pob dysgwr.
2. Ymgyrch Ymwybyddiaeth Niwroamrywiaeth – mae niwroamrywiaeth yn effeithio
ar o leiaf 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru. Dylai dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o
niwroddatblygiadol a sut mae'n ymddangos ac yn effeithio ar bobl fod yn
gyffredin er mwyn sicrhau Cymru gynhwysol.
3. Cefnogaeth i gynorthwywyr addysgu – mae angen i gynorthwywyr addysgu
gael eu gwerthfawrogi, eu hyfforddi a'u talu'n iawn
4. Cyllid ar gyfer athro niwroamrywiaeth arbenigol a chynorthwyydd addysgu
ym mhob awdurdod lleol i gefnogi, arwain a hyfforddi staff yn yr ysgol.
5. Nid yw darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg yn cael ei chefnogi cystal ag y
mae darpariaeth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ac nid yw hyn yn darparu
cydraddoldeb a chynhwysiant i ddysgwyr Cymraeg.
6. Bellach, mae 40 i 60 y cant o ddisgyblion ag anawsterau dysgu
cyffredinol yn methu â chael cod o dan y cod newydd Darpariaeth Gyffredinol yn
Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg.
7. Cymorth i rieni gan staff hyfforddedig a all eu cyfeirio at gymorth ar
gyfer anghenion eu plant.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gŵyr
- Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/06/2023