Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Rhentwyr (Diwygio)
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Rhentwyr (Diwygio)
Cyflwynwyd y Bil Rhentwyr (Diwygio) (y
Bil) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 17 Mai 2023.
Mae'r teitl hir y
Bil yn nodi mai diben y Bil yw “gwneud darpariaeth sy'n newid y gyfraith
ynghylch tai rhent, gan gynnwys darpariaeth diddymu tenantiaethau sicr cyfnod
penodol a thenantiaethau byrddaliol sicr; gosod rhwymedigaethau ar landlordiaid
ac eraill mewn perthynas â thai rhent, llety dros dro a llety â chymorth; ac at
ddibenion cysylltiedig.”
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Ionawr 2024
Ar 30 Ionawr
2024, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 235KB).
Mae'r Pwyllgor Busnes
wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai, a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 15
Mawrth 2024 (PDF 28KB).
Ar 27 Chwefror
2024, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd tan 26 Ebrill 2024
(PDF 49KB).
Ar 16 Ebrill
2024, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd tan 10 Mai 2024
(PDF 49KB).
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/01/2024