Modelau Ewropeaidd o iechyd a gofal cymdeithasol
Modelau Ewropeaidd o iechyd a gofal cymdeithasol
Bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn cynnal sesiwn untro yn ystod tymor yr hydref 2023, gydag arbenigwyr
perthnasol ar fodelau Ewropeaidd o iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y sesiwn yn:
>>>>
>>> Edrych ar fodelau gwahanol o iechyd a gofal
cymdeithasol.
>>> Datblygu dealltwriaeth o’r gwahaniaethau a’r
tebygrwydd o ran y ffordd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu
ar draws Ewrop a’r cyd-destunau gwahanol sy’n berthnasol.
>>> Llywio penderfyniadau’r Pwyllgor ynghylch a
ddylid gwneud rhagor o waith yn ymwneud â hyn, ac os felly, ynghylch ffocws y
gwaith hwnnw.
<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/07/2023