NDM8272 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Deintyddiaeth y GIG
NDM8272 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Deintyddiaeth y GIG
NDM8272 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod ymchwiliad gan Gymdeithas
Ddeintyddol Prydain wedi canfod nad yw 93 y cant o feddygfeydd deintyddol yng
Nghymru yn derbyn cleifion newydd GIG Cymru sy'n oedolion.
2. Yn cydnabod bod arolwg Cymdeithas Ddeintyddol
Prydain o 250 o ddeintyddion yng Nghymru wedi canfod bod dros draean o
ddeintyddion yn bwriadu lleihau eu contractau GIG yng Nghymru.
3. Yn mynegi pryder bod llawer o drigolion
ledled Cymru yn aros dros ddwy flynedd i gofrestru gyda deintydd GIG yng
Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain
i sicrhau bod contractau deintyddol GIG Cymru yn caniatáu i bractisau
deintyddol gynyddu nifer eu cleifion; a
b) recriwtio mwy o ddeintyddion ar frys drwy
wneud deintyddiaeth GIG Cymru yn yrfa ddeniadol, drwy ad-dalu ffioedd dysgu i'r
rhai sy'n gweithio mewn practisau deintyddol GIG Cymru am bum mlynedd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod adfer gwasanaethau deintyddol ar
ôl pandemig y coronafeirws yn her hirdymor ar draws y Deyrnas Unedig.
2. Yn nodi bod cael gafael ar wasanaethau
deintyddol yn parhau i fod yn heriol i rai pobl yng Nghymru.
3. Yn nodi bod mwyafrif llethol y practisau
deintyddol â chontractau’r GIG yn cymryd cleifion GIG newydd y llynedd ac y
byddant yn parhau i wneud hynny eleni.
4. Yn nodi bod 174,000 o bobl nad oeddent wedi
cael gofal deintyddol y GIG yn hanesyddol wedi cael apwyntiad ac wedi cael
triniaeth y llynedd.
5. Yn nodi bod lleiafrif o gontractau deintyddol
wedi’u terfynu neu wedi’u lleihau o ran eu gwerth, a bod yr arian a ddychwelwyd
yn cael ei gadw gan y bwrdd iechyd i ailgomisiynu gwasanaethau yn eu lle.
6. Yn croesawu y bydd Llywodraeth Cymru yn
parhau i:
a) gweithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol
Prydain i ddatblygu a negodi contract deintyddol newydd sy'n gwneud
deintyddiaeth y GIG yn ddewis deniadol; a
b) gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd
Cymru ac israddedigion deintyddiaeth i ddeall beth fyddai'n eu cymell i weithio
yng Nghymru ar ôl graddio.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu fel is-bwyntiau newydd ar ddiwedd
pwynt 4:
adolygu amodau cytundebol ar gyfer deintyddion a
gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol i'w gwneud yn fwy cynaliadwy a
deniadol yn y tymor hir;
meithrin gallu hyfforddi deintyddol, gan gynnwys
drwy archwilio'r posibilrwydd o sefydlu ysgol ddeintyddol newydd yn y gogledd;
datblygu
strategaeth cadw'r gweithlu.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2023