NDM8230 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Diogelwch adeiladau uchel
NDM8230 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Diogelwch adeiladau uchel
NDM8230 Janet Finch-Saunders
(Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil i sicrhau bod datblygwyr adeiladau uchel iawn yn gyfrifol am faterion
diogelwch.
2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai:
a) creu dyletswydd ar
ddatblygwyr i ad-dalu lesddeiliaid am gostau rhesymol a gronnwyd o ganlyniad i
faterion diogelwch adeiladau; a
b) gwahardd unrhyw
ddatblygwr sy’n gwrthod cyweirio’r diffygion diogelwch tân ar adeiladau a
ddatblygwyd ganddynt rhag cael caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddatblygiadau
newydd yng Nghymru.
Cyd-gyflwynwyr
Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Cefnogwyr
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2023