NDM8252 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Anymataliaeth
NDM8252 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Anymataliaeth
NDM8252 Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod anymataliaeth
yn parhau i fod yn bwnc tabŵ i fenywod a dynion er ei fod yn fater iechyd
cyhoeddus sylweddol;
b) bod dros 90 y
cant o famau tro cyntaf yn profi trawma perineol yn ystod genedigaeth sy'n
gallu arwain at broblemau anymataliaeth;
c) nad yw 75 y cant o
fenywod yn gofyn am gymorth meddygol ar gyfer eu hanymataliaeth er ei bod yn
effeithio ar ansawdd eu bywyd waeth pa mor ddifrifol ydyw;
d) bod dynion yn
dioddef o anymataliaeth hefyd, yn arbennig yn ddiweddarach mewn bywyd ond
mae'n broblem gudd i raddau helaeth.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag achosion a
chanlyniadau anymataliaeth ac i godi ymwybyddiaeth o'r mater ymhlith y cyhoedd.
Cyd-gyflwynwyr
Joyce Watson (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/05/2023