P-06-1336 Gwersi Cymraeg am ddim i bawb sydd isio dysgu'r iaith yng Nghymru
P-06-1336 Gwersi Cymraeg am ddim i bawb sydd isio dysgu'r iaith yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elfed Wyn ap Elwyn, ar ôl casglu cyfanswm o
858 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae llawer iawn o bobl yng Nghymru yn awyddus iawn i ddysgu'r Gymraeg, gyda
phobl sy'n byw yma, a phobl sy'n symud i'r wlad eisiau gweld yr iaith yn ffynnu
ac yn tyfu. Ond mae llawer iawn o bobl hefyd yn gweld hi'n anodd fforddio
gwersi Cymraeg, a dyw defnyddio Duolingo ddim yn ddull dysgu addas i bawb.
Felly mae angen sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i ddysgu'r Gymraeg heb orfod
poeni am y gost, a bod trefn iawn i bobl gael dysgu hefyd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Os ydym ni am gyrraedd y filiwn o siaradwyr, yna mae angen sicrhau bod pawb
yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/09/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymateb
blaenorol gan y Gweinidog a oedd yn glir nad oes cynlluniau i ddarparu
darpariaeth Dysgu Cymraeg am ddim i bawb, a'r ymateb manwl diweddar gan y
Ganolfan Dysgu Cymraeg yn amlinellu'r ystod o opsiynau, cefnogaeth benodol am
ddim a'r ystod o gymorth ariannol sydd ar gael. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr
Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 05/06/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyfor Meirionnydd
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/05/2023