NDM8229 Dadl Plaid Cymru - Cynllyn brys ar gyfer y sector bysiau
NDM8229 Dadl Plaid Cymru - Cynllyn brys ar gyfer y sector bysiau
NDM8229 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod
tystiolaeth ysgrifenedig y Llywodraeth i bwyllgorau craffu'r Senedd ar y
dyraniadau o fewn pob prif grŵp gwariant wedi dweud y byddai'r £28 miliwn
a roddwyd i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn 2022-23 yn cael cyllid
cyfatebol yn 2023-24, ond bod gweithredwyr bysiau wedyn wedi cael gwybod nad
oedd sicrwydd o unrhyw gyllid o 1 Ebrill 2023 ar gyfer y cynllun brys ar gyfer
y sector bysiau.
2. Yn nodi nad yw'r
estyniad 3 mis i'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig llawer o
sicrwydd i weithredwyr bysiau i gynnal gwasanaethau a llwybrau allweddol yn eu
hardal yn y tymor hir.
3. Yn mynegi pryder y
byddai peidio ag ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn
arwain at ganslo gwasanaethau ar raddfa eang, a fydd yn gadael cymunedau ledled
Cymru - cymunedau gwledig yn bennaf - wedi’u hynysu.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau am o
leiaf 18 mis i ddarparu sicrwydd ariannol mwy hirdymor i weithredwyr bysiau
ledled Cymru.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno opsiynau cyllid diogel mwy hirdymor er mwyn cynnal
gwasanaethau bysiau, yn hytrach na chynlluniau cyllido brys.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth dros £150m o gyllid ychwanegol i’r
diwydiant bysiau gydol y pandemig a’i bod wedi cefnogi’r diwydiant i adfer ar
ei ôl.
2. Yn nodi nad yw
nifer y teithwyr ar fysiau wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig a bod
patrymau o ran defnydd wedi newid.
3. Yn nodi bod yr
estyniad cychwynnol o 3 mis i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig
sicrwydd yn y tymor byr i weithredwyr bysiau er mwyn cefnogi datblygiad
rhwydwaith bysiau sylfaenol.
4. Yn cefnogi
cynlluniau mwy hirdymor Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r diwydiant bysiau drwy
reoleiddio.
5. Yn cefnogi bwriad
Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ddyrannu cyllid brys cyn gynted â phosibl gan
yn hytrach gyflwyno pecyn cyllid sy’n cefnogi’r trosglwyddiad i fasnachfreinio.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/03/2023