NDM8219 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Mesuryddion rhagdalu a gwasanaethau cyngor ynni
NDM8219 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Mesuryddion rhagdalu a gwasanaethau cyngor ynni
NDM8219 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu:
a) ei fod yn
sgandal genedlaethol bod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio
mesuryddion rhagdalu yn 2022 oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni;
b) bod rheoleiddiwr
ynni Ofgem wedi methu â diogelu aelwydydd bregus drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni
osgoi gwiriadau priodol;
c) y dylai'r rhai sy'n
cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu gael eu digolledu'n briodol
gan gyflenwyr ynni a'u newid yn ôl yn rhad ac am ddim.
2. Yn nodi:
a) y cafodd
cyflenwad ynni 3.2 miliwn o bobl ei dorri y llynedd oherwydd eu bod wedi
rhedeg allan o gredyd ar eu mesuryddion rhagdalu;
b) y gallai biliau
ynni cyfartalog cartrefi godi hyd yn oed ymhellach, gan roi baich ychwanegol ar
aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd yr argyfwng costau
byw.
3. Yn cydnabod cynllun
peilot ynni yn y cartref 2021-22 Llywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi
cyngor rhagweithiol a chefnogaeth allgymorth i bobl a oedd, neu a oedd mewn
perygl o fod, mewn tlodi tanwydd.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth cyngor ynni yn y cartref ledled Cymru i
sicrhau bod pob cartref yn gallu cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen
arnynt.
Cefnogwyr
Carolyn Thomas (Gogledd
Cymru)
Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru)
Heledd Fychan (Canol De
Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd)
Joyce Watson (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Luke Fletcher (Gorllewin De
Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe)
Peredur Owen Griffiths
(Dwyrain De Cymru)
Sarah Murphy (Pen-y-bont ar
Ogwr)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/03/2023