P-06-1330 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod eu cynigion ar gyfer ailbrisio'r dreth gyngor
P-06-1330 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod eu cynigion ar gyfer ailbrisio'r dreth gyngor
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David TC Davies MP, ar ôl casglu cyfanswm o
3,324 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae trigolion Sir Fynwy yn wynebu codiadau anferthol yn y dreth gyngor os
bydd cynigion i ailbrisio cartrefi yn mynd yn eu blaenau.
Mae ailbrisiad o bob un o’r 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru yn cael ei
awgrymu mewn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru. O dan 'Treth Gyngor Decach' -
byddai bandiau newydd yn cael eu creu a chyfraddau treth newydd yn cael eu
pennu ar gyfer pob band.
Wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad mae lincs at adroddiadau gan y Sefydliad
Astudiaethau Cyllid a Phrifysgol Sheffield yn amcangyfrif y costau ychwanegol y
bydd pobl yn eu hwynebu mewn gwahanol rannau o Gymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae’r ymgynghoriad hwn yn dangos y bydd bron i 4 o bob 10 o berchnogion tai
yn Sir Fynwy yn symud i fyny band ac yn wynebu talu cannoedd yn fwy bob
blwyddyn mewn treth gyngor, tra byddai llai nag 1 o bob 10 yn talu llai drwy
symud i lawr band.
Mae trigolion eisoes yn wynebu baich annheg o ran y dreth gyngor oherwydd
dyma’r ardal awdurdod lleol sy’n cael y lefel leiaf o gyllid yng Nghymru. Mae’r
bwlch rhwng yr hyn a geir gan Lywodraeth Lafur Cymru a’r hyn y mae’r cyngor yn
ei wario yn cael ei lenwi gan y dreth gyngor.
Mae Sir Fynwy yn debygol o fod ar ei cholled o’r cynigion hyn a allai wthio
teuluoedd sydd dan bwysau i fandiau treth gyngor llawer uwch, gan ei gwneud hyd
yn oed yn ddrytach ac i rai pobl leol yn anfforddiadwy i fyw yma ar adeg pan
mae llawer yn cael trafferth gyda chostau byw.
Rwy’n annog trigolion Sir Fynwy i lofnodi’r ddeiseb hon fel y gall y Senedd
gymryd camau i ddylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/04/2023