NDM8215 Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2023-24
NDM8215 Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2023-24
NDM8215 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y
penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru
2023-24 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig a
gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
b) y gyfradd Gymreig a
gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt; ac
c) y gyfradd Gymreig a
gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/03/2023